Catiau Cwta/Limrigau a Gwirionebau
← Beddargraffiadau | Catiau Cwta gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Gochelion → |
LIMRIGAU A GWIRIONEBAU
STORI DAL
Fe redai ail was fferm yn Llŷn
Mor gyflym na welid mo'i lun,
Ar ôl rowndio das wair
Ryw ddwyaith neu dair
Rhoddai naid ar ei gefn ei hun.
OED HENFERCH
'Roedd henferch yn byw yn Llanboidy
Na wyddai neb faint oedd eu hoed hi,
Pan ofynnodd Wil Sam
Ei hoed, fe roes lam
A ffoi rhag ei thafod a'i throed hi.
BARN PAWL
'Roedd dynes yn byw ym Mhorthcawl
Yn dadlau yn bybyr dros hawl
Y wraig mewn eglwysi;
Meddai dyn ar ei phwys hi,
'Mae'n well gen i wrando ar Bawl.'
CLWTFAB
Mae pregethwr yn byw 'Mhentre-clwt
A'i ddoniau yn boenus o bwt,
Ond daeth 'nôl o'i deithiau
Drwy'r Unol Daleithiau
A'r wyddor i gyd wrth ei gwt.
HEICIO
Meddai Wil ar ôl dwy awr o heicio
'Mae 'nghoesau i'n barod i streicio,
Dyma hogen wrth rôd
Ei char modur yn dod
Beth am lifft? Dyna'r heicio 'rwy'n leicio.'
Nodiadau
[golygu]