Ceiriog a Mynyddog/Adgofion Dedwydd
Gwedd
← Diolchgarwch Aderyn | Ceiriog a Mynyddog gan Mynyddog golygwyd gan John Morgan Edwards |
Cymru Rydd → |
ADGOFION DEDWYDD.
Canig.
DEDWYDD oedd treulio noson gynt
Ym mynwes hen wlad y gân,
Dedwydd oedd clywed sŵn y gwynt,
VA theimlo gwres y tân;
A'r merched iach
A'u troellau bach
Yn nyddu, yn nyddu y llin a'r gwlan:
Ceid hen hanesion Cymry fu
A wnaent orchestion heb eu hail,
Ac unai pawb o fewn y tŷ
I ganu bob yn ail:
Difyr oedd adrodd am Gymru a'i bri,
A difyr oedd canu'i halawon hi;
A'r troellau yn canu Bass i'r gân
Wrth nyddu, a nyddu y llin a'r gwlan.