Neidio i'r cynnwys

Ceiriog a Mynyddog/Cymru Rydd

Oddi ar Wicidestun
Adgofion Dedwydd Ceiriog a Mynyddog

gan Mynyddog


golygwyd gan John Morgan Edwards
O Na Bawn i Gartref

CYMRU RYDD.

DATBLYGER baner glaerwen hedd
Ar ben pob clogwyn clir,
Mae Cymru wedi gweinio'i chledd
Ar ol gwasanaeth hir;
Mae nos trallodion wedi ffoi,
Ac wele daeth y dydd,
Mae dorau gorthrwm yn datgloi,
A Chymru'n rhydd, yn rhydd!

Hardd dorch o flodau moesau sydd
Am wddw Cymru wen,
A rhinwedd megis eurliw'r dydd
Sy'n dalaith am ei phen;
Awelon tyner cariad cu
Yn distaw sibrwd sydd
Wrth lwch gwroniaid "Cymru fu"
Fod Gwalia'n rhydd, yn rhydd!
 
Ymysg yr oll o'r perlau glân
Sy' nghoron benna'r byd,
Caiff pur deyrngarwch gwlad y gân
Fod byth y gloewa i gyd:
Bydd hen Geninen Cymru'n werdd
Tra golau haul y dydd,
A chenir gyda thant a cherdd
Fod Cymru'n rhydd, yn rhydd!


Nodiadau

[golygu]