Neidio i'r cynnwys

Ceiriog a Mynyddog/Nant y Mynydd

Oddi ar Wicidestun
Y Telynor Dall Ceiriog a Mynyddog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)


golygwyd gan John Morgan Edwards
Y Fenyw Fach a'r Beibl Mawr

NANT Y MYNYDD.

(Rhangan gan John Thomas, Llanwrtyd, cân gan William Davies).

NANT Y MYNYDD, grow, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant;
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
O na bawn i fel y nant!

Grug y Mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug,
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.

Adar mân y mynydd uchel
Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn 'hedeg—
O na bawn fel 'deryn bach!

Mab y Mynydd ydwyf finnau
Oddi cartref yn gwneyd cân,
Ond mae'm calon yn y mynydd
Efo'r grug a'r adar mân.


Nodiadau

[golygu]