Neidio i'r cynnwys

Ceiriog a Mynyddog/O! Na bawn yn seren

Oddi ar Wicidestun
Yn Ynys Mon Fe Safai Gŵr Ceiriog a Mynyddog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)


golygwyd gan John Morgan Edwards
Canu'r Wyf Gan Chware'r Crwth

O! NA BAWN YN SEREN.

[Y Gerddoriaeth i S.A.B. gan Dr. Jos. Parry.]

O NA bawn yn seren
Ar ael y ffurfafen,
Yn dilyn y lloer o amgylch y byd,
Fry yn seren fach wen, yn seren fach wen,
Ar faesydd y nen
Yn bod ac yn byw;
Yn hofran uwch ben
Rhwng dynion a Duw, o hyd!

Neu'n un o'r planedau,
Ac imi leuadau,
I'm dilyn trwy'r nef yng ngolwg y byd,
Neu'n blaned fach wen, yn blaned fach wen.
Neu'n un o'r comedau:
Yn cario negesau
O haul pell i haul, o fyd pell i fyd,
Neu'n gomed fawr wen, yn gomed fawr wen.

Mi ddwedwn am ddyfnder,
A hŷd, lled ac uchter,
Eangder y nef, a harddwch y byd.
O! yn seren fach wen, yn seren fach wen,
Ar faesydd y nen,
Yn bod ac yn byw;
Yn hofran uwch ben
Rhwng dynion a Duw, o hyd!


Nodiadau

[golygu]