Ceiriog a Mynyddog/Canu'r Wyf Gan Chware'r Crwth
Gwedd
← O! Na bawn yn seren | Ceiriog a Mynyddog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) golygwyd gan John Morgan Edwards |
Y Ddafad Benllwyd → |
CANU'R WYF GAN CHWARE'R CRWTH.
ALAW," Bardd yn ei Awen." Hefyd, Rhangan gan Alaw Ddu.
CANU'R wyf gan chware'r crwth
I'r ffynnon fach sydd ger fy mwth,
Mysg glaswellt, brwyn, a dail:
A gwylio'r dafnau'n dod ymlaen
Tros ymyl y mwsoglyd faen,
I chware yn yr haul:
Er fod helyg ar bob tu,
Ro'f fi mo'm crwth i hongian fry,
Tra rhedo dŵr yn bur ac iach
O fin fy ffynnon fach.
Llifwch allan, ddyfroedd byw,
I gadw lili'r dŵr yn fyw,
A'i blodau'n wyn o hyd:
A chennych chwi, O! ddafnau byw,
Disgleiried cwpan dynolryw,
Ym mhedwar bann y byd.
Ddirwest anwyl, tŷf i fri,
Hardd lili wen y dŵr wyt ti,
A cher pob bwth yng Nghymru wen,
O! cyfod di dy ben.