Ceiriog a Mynyddog/Y Ddafad Benllwyd
← Canu'r Wyf Gan Chware'r Crwth | Ceiriog a Mynyddog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) golygwyd gan John Morgan Edwards |
A Ddwedaist Ti Fod Cymru'n Dlawd? → |
Y DDAFAD BENLLWYD.
HEN DDAMEG GYMREIG.
Ymysg ryw ddeugain mil
O ddefaid bychain penwyn,
'Roedd dafad benllwyd fach
Yn byw ar Fynydd Berwyn;
Ac ni fu dafad fach erioed
Mor hir ei phen a chwim ei throed.
Fel ebol tros bridd' wâdd,
Neu gath tros ben llygoden,
Hi neidiai tros y gwrych,
Ac yn ei hol drachefen:
Gorweddai' lawr gan gnoi ei chil,
Yn feistres ar y deugain mil.
Ar ben y graig gerllaw
'Roedd blewyn glas yn tyfu;
Ac i ddaneddau'r graig
Yr adar ddoent i nythu—
Ac ebe'r ddafad,— "Gwaith go gas
Yw dringo atat, flewyn glas."
"Mae'r defaid, flewyn glas,
Yn bwyta grug ac eithin;
A thithau wrth eu pen
Yn gwenu ac yn chwerthin:
Mae yma ddeugain mil a'th bawr,
Os doi di dipyn bach i lawr."
Ond ni ddoi'r blewyn glas
I waered oddiyno,
A'r ddafad benllwyd aeth
I ddringo tuag ato;
A dringo bu am bedair awr,
I fyny'r hen ddaneddau mawr.
Cyrhaeddodd ben ei thaith,
Ac fel pe bai mewn newyn,
Cyn cnoi ei chîl un waith
Bwytaodd ef bob blewyn:
A theimlai 'i hun yn mynd yn fras
Pan yn mwynhau y blewyn glas.
Bu byw am bedair blynedd
Yn dew a thynn ei chroen;
Ond ar y creigiog ddannedd
Hi gollodd bedwar oen;
A hithau gwympodd tros y trwyn,
I'r dibyn mawr ar ol yr ŵyn.
'Run fath a'r ddafad benllwyd
Aeth llawer dyn yn fras,
Wrth gripian tua'r dafarn
Lle tŷf y blewyn glas;
A'r diwedd oedd i'w blant a'i wraig,
Ac ef ei hun fynd tros y graig!