Cerddi a Baledi/Mewn Gardd
← Fioled | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Y Cariad Gollwyd → |
MEWN GARDD
DILEUAD hafaidd hwyr,
Y sêr i gyd ynghudd;
A'r awel rhwng y dail
Yn cwyno'n brudd.
Ac yna'r gawod law,
A sisial blagur fyrdd;
Ar coed yn curo'n llon
Eu dwylo gwyrdd.
'R oedd perlau ar bob brig,
Ar fron pob lili dlos,
Yn hirwallt gloywddu pêr
Y wyryf nos.
A pheraroglau'n dod
O gudd welyau'r mwsg,
O'r lawnt lle plygai'r rhos
Ei ben ynghwsg.
O lawer gwritgoch berth,
A gwynion flodau claf,
Cariadon haul a gwynt,
A chawod haf.
A minnau yn y gwyll,
Dan gysgod coed yr ardd,
Yn methu canfod un
O'r dyrfa hardd,
A gysgai wrth fy nhraed,
Freuddwydiai uwch fy mhen;
Mor gudd a'r llu a aeth
Tu hwnt i'r llen.
Ond gwyddwn drwy y nos,
Er eu gorchuddio dro,
Fod llawer câr a ffrind
O fewn y fro.
Ac yna daeth y wawr,
A'i llusern aur i'r ardd-
A gwelais heb un llen
Y dyrfa hardd.