Neidio i'r cynnwys

Cerddi a Baledi/Fioled

Oddi ar Wicidestun
P'run Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Mewn Gardd

FIOLED

FLODEUYN pêr yswil
Yn gwenu ar y ddol,
Fe'th welais di cyn hyn
Yn gwenu yn ei chôl,—
Dy irddail glas a thyner di,
Ar wenfron deg fanwylyd i.

Flodeuyn tlws dy wawr,
Fe'th welais cyn yr hwyr
Yn gwywo ar ei bron,
A'th dlysni'n cilio'n llwyr,—
Ond heddiw gweni ar y ffridd,
A'i thlysni hithau yn y pridd.

Flodeuyn pêr yswil,
Cei di, a'r rhosyn balch,
A'r curaid ddaffodil,
A'r lili liw y calch,—
Bob blwyddyn ddod i'r ardd a'r ddôl—
Ni ddaw f'anwylyd byth yn ôl.


Ni ddodaf lili wen,
Na lluniaidd ddaffodil,
Na rhosyn ar ei bedd,
Ond ti, y bychan swil;
Cei sisial yno wrth y gwynt,
Mor bêr, mor dlos, mor fer fu'i hynt.