Cerddi a Baledi/P'run
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Yr Ynys Bellennig | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson |
Yng Ngolau'r Lloer |
P'RUN?
BLODYN bach,
Ai dy gariad, flodyn bach,
Yw'r wenynen ynte'r awel
Chwery ar dy ruddiau iach?
Goed y llwyn,
P'run felysa, goed y llwyn
Gan eich dail, ai cân aderyn,
Ynte su y chwaon mwyn?"
Laston oer,
P'run a geri, laston oer,
P'run rydd gusan mwyna' iti,
Min y traeth neu ynte'r lloer?
Gwenno lon,
Dywed wrthyf, Gwenno lon;
P'run ai fi ai'r hogyn arall,
Wenno, bia serch dy fron?