Cerddi a Baledi/Yng Ngolau'r Lloer
← P'run | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Fioled → |
YNG NGOLAU'R LLOER
YNG ngolau'r lloer daw'r llwynog coch
O'i ffau ar ysgafn droed,
A'r tylwyth teg o'u pebyll brau
I ddawnsio dan y coed;
Af innau i gwrdd fy annwyl un
Yng ngolau'r lloer-ddedwyddaf fun.
Yng ngolau'r lloer, ac awel Mai
Yn chwerthin yn y coed,
A minnau'n pwyso ar ei fron
Yn eneth ddeunaw oed,
Yn gwrando stori fwyna'r byd
Gan fwynaf fab—O, gwyn fy myd!
Yng ngolau'r lloer, mor unig wyf,
A daily coed sy'n grin—
Mae yntau 'mhell ar feysydd Ffrainc,
Yng nghanol berw'r drin—
Mor bell yw dyddiau deunaw oed
Ac awel Mai ym mrig y coed.
Yng ngolau'r lloer, mae llwynog coch
Yn llechu yn ei ffau,
A'r tylwyth teg sy'n cysgu'n drwm
O dan eu pebyll brau—
'Rwyf innau'n brudd, a'm bron yn oer
O ofn y drin, yng ngolau'r lloer.
Yng ngolau'r lloer mae bedd yn Ffrainc,
Ac arno groes o bren—
Bydd bedd yng Nghymru cyn bo hir,
A'm henw uwch ei ben.
A thynged dau—ar garreg oer
Ddarllenir mwy—yng ngolau'r lloer.