Cerddi a Baledi/Y Cariad Gollwyd

Oddi ar Wicidestun
Fioled Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Mynwent Bethel

Y CARIAD A GOLLWYD

Mi gleddais fy nghariad dan olau y lloer
Mewn tristwch y cleddais i hi;
Ei hamdo oedd dagrau, a hiraeth ei harch,
A'i bedd oedd fy nghalon i.

Mae'r sôn ei bod eto i'w gweled fin nos
Yn rhodio hyd feysydd y fro,
Ond gwn nad fy nghariad yw honno—mae hi
O hyd yn fy nghalon ynghlo.

Efallai mai'r un yw ei henw—a bod
Ei llygaid a'i gwallt o'r un lliw,
Ei delw yr unrhyw o bryd ac o wedd;
Ond gwn nad fy nghariad i yw.

Bu farw fy nghariad pan giliodd ei serch,
Er aros o'r ddelw ddi-rin;
Ni'm dawr am y llusern pan ddiffydd y fflam,
Na'r llestr pan dderfydd y gwin.