Cerddi'r Bwthyn/Beddargraff Clepwraig

Oddi ar Wicidestun
Beddargraff Gwerthwr Gwin Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Beddargraff Morwr

BEDDARGRAFF CLEPWRAIG

MAE hon heb air am unwaith,—wedi stŵr
Daeth distawrwydd perffaith.
Ar gleber ofer afiaith
Rhoed clo Amen,—Amen maith.


Nodiadau[golygu]