Cerddi'r Bwthyn/Beddargraff Gwerthwr Gwin

Oddi ar Wicidestun
Beddargraff Areithiwr Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Beddargraff Clepwraig

BEDDARGRAFF GWERTHWR GWIN

DIYSTŴR y gwerthwr gwin—a noddodd
Holl rinweddau'r grawnwin.
Wedi gorwedd, nid gerwin
Y suraf ias ar ei fin.

Silffoedd ei winoedd ni wêl,—noswyliodd
Mewn seler rhy isel.
Mae heb ddafn, a'i safn dan sêl,—
Iechyd da i'w lwch tawel!


Nodiadau[golygu]