Cerddi'r Bwthyn/Beddargraff Areithiwr
Gwedd
← Claddu Bardd | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Beddargraff Gwerthwr Gwin → |
BEDDARGRAFF AREITHIWR
LLEFODD ar lawer llwyfan,—a'i arawd
Eirias yn llawn trydan.
Ei le'n awr yw llawr y llan,—
Byd oer i fab y daran.
Ysodd a'i chwyrn ymosod—nwyd gwerin;
Arf deufin ei dafod.
Yn nawn ei ddawn, prudd ei ddod
I hendy oer mudandod.