Cerddi'r Bwthyn/Claddu Bardd

Oddi ar Wicidestun
Gwylan Farw Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Beddargraff Areithiwr

CLADDU BARDD

ER rhoddi'r bardd dan briddyn—heb aur byd,
Bu aur byw i'w linyn;
A thrwy ei glod, aeth i'r glyn
Yn gyfoethog o'i fwthyn.

A fydd rhyw gân ryfeddol—i'r hoff ŵr
Hwnt i'r ffin ddaearol?
A erys nwyf sy ddwyfol,
A thwf rhyw wyrth fwy ar ôl?


Nodiadau[golygu]