Cerddi'r Bwthyn/Gwylan Farw

Oddi ar Wicidestun
Ymffrost Brenin Braw Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Claddu Bardd

GWYLAN FARW

AR ŵyr y nawf yr awron—heb osgo
Byw i'w hesgyllgwynion.
Llaes ei dull, iarlles y don,
Morwyndod marw y wendon.

Ni bu hedd ar wib iddi—yn y maes,
Galwai'r môr amdani;
A rhoed ei chlaerwynder hi
Yn ôl i'r trochion heli.

Nodiadau[golygu]