Cerddi'r Bwthyn/Ymffrost Brenin Braw
← Gwylan Uwch Cae Gwenith | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Gwylan Farw → |
YMFFROST BRENIN BRAW
"Oes dim help rhag Angeu Gawr,
Y Carnlleidr, Mwrdriwr mawr,
Sy'n dwyn a feddom, ddrwg a da,
A ninnau i'w Gigfa gegfawr."—Y Bardd Cwsc.
YMROWCH a chloddiwch, chwi drigolion daear!
Derfydd ffwdanu, a bydd gorffen gwaith.
Caf weld eich planed, fel y lloer, yn nofio
Yn gromen ridyll drwy'r gwagleoedd maith.
Trowch i'r gorffennol eang gan ymwrando!
Peidiodd cyniwair brwd a mynd i'r oed.
Gwacter yw diwedd cyrchu, drwy'r canrifoedd,
A'r hyn a fu fel peth na fu erioed.
Ewch rhagoch yn finteioedd i'r dyfodol!
Difancoll fydd i chwithau yn y man;
A lle bu'r tramwy a'r dyheu, nid erys
Nac argraff troed, na rhigol carafan.
Fel y manylwch oll, mewn teml a brawdle,
Am bethau union, pethau gŵyr!
Dileaf eich rhinweddau a'ch troseddau,
Diddymaf eich graddfeydd yn llwyr.
Yma'n y pridd, a'ch dwg yn ddiwahaniaeth,
Mae ffiniau'r drwg a'r da, y gwir a'r gau?
Yng ngenau'r dwfn a'ch llwnc, mae'r chwerw a'r melys?—
Cythraul a sant, yr un yw blas y ddau!
Y bloeddiwr croch a heriai ormes mawrion
Ac addo euraid oes i'w blaid.
Teflais fy nrain chwerthinog dros ei wyneb,
Llenwais ei enau gwag â llaid.
Mynnwch fod sŵn y cefnfor yn y gragen
A daflwyd, rywfodd, i'r mynydd-dir draw.
Dyma i chwi benglog hen feddyliwr dyfal
A soniodd lawer am y Byd a Ddaw.
Rhowch wrth eich clust y "gragen" hon a gwrando
Dan glawdd cysgodol lle ni thery gwynt.
A glywch chwi furmur tragwyddoldeb ynddi?
A glywch chwi sŵn yr hen obeithion gynt?
Chwi soniwch am ehedeg fel eryrod,
A chwithau'n blino ar ffyrdd nad ydynt serth.
Try eich hynafgwyr yn fabanod eilwaith,—
Ai felly y dring eich hil o nerth i nerth?
Pa les eich rhedeg a'ch ymryson chwannog
A'ch brwd gystadlu ar lwyfannau'r tir?
Yr un yw gwobrwy pawb ar ben yr yrfa,—
Dibennu'n gydradd mewn distawrwydd hir.
Pa les cynilo a threulio bys i'r asgwrn?
Ni chelir undim rhag fy mysedd i.
Pan gefnoch ar eich llafur, mi ofalaf
Na bydd dimeiwerth yn eich dwylo chwi.
Wele fwth tyllog hen dyddynnwr diwyd
A grafodd lawer ar ei ardd a'i ddôl.
Yn waglaw yr aeth ymaith yn fy ngherbyd,
A gado drain ac ysgall ar ei ôl.
Dyma orweddfan hen amaethwr cefnog
Na roddodd gyflog byw erioed i was.
Tynnais y ffiol lawn o'i afael yntau,
A'i gloi'n ysgerbwd dan dywarchen las.
Chwi, gadfridogion hy â'ch meirch rhodesgar,
A'ch cleddau'n fflachio'n danbaid megis mellt!
Syllwch yn ôl am ennyd fel y gweloch
Nad yw eich balchder chwithau onid gwellt.
Mae'r teyrn a safodd gynt ar flaen ei fyddin,
A'i longau'n rhesi ar fin y traeth?
Fel arglwydd daear oll y sythodd yno;
Fel truan tlawd, i'r llwch yr aeth.
Cyn myned un o'm myrdd canrifoedd drosto,
I lawr o'i thrôn y daeth, efô a'i rwysg;
Gŵyro i'r gweryd fel hen gyff a fallodd,
Pendrymu i'r ddaear fel creadur brwysg.
Tan garreg nadd a cholofn lathr y gorwedd,
Heb i'w wynepryd mwy na gwg na gwên;
A'r hedd a elwch chwi'n dawelwch sanctaidd,
Onid yw acw yn fy ogof hen?
Mae Hannibal a drechodd lengoedd Rhufain,
A'i fawrthig nwyd yn ddychryn yn ei wedd?
Rhedodd fy llyngyr drwy ei ymysgaroedd,
Tyllodd fy rhwd newynog ddur ei gledd.
A'r balch ymerawdr a ostyngodd wledydd,
A'i wersyll ar bob lleindir dan y nef;
Ei aerwyr, ei osgorddlu a'i buteiniaid,
Crugiais eu hesgyrn gyda'i esgyrn ef.
Adfail ei sedd yn noethni'r Coliseum,—
Gwarwyfa waedlyd y pencampwyr gynt ;
A'i deigr, ei lew, ei banther a'i ornestwyr,
Fel us yr aethant oll o flaen fy ngwynt.
Mi welais daflu ei gaethion i'r bwystfilod,
Ei grechwen yntau a'i ddifyrrwch mawr.
Mi a'i tynnais bendramwnwgl o'i uchelfan,
A'i ado'n dom anghyffwrdd ar y llawr.
Mae Cleopatra, degwch gerddi'r Dwyrain?
Mae chŵydd y bronnau hael, y gwrid a'r gwres?
Mae'r corff gosgeiddig a wirionai deyrnedd?
Chwilier amdanynt yn niddymdra'r tes.
Lle ciliodd Alecsander Fawr a Darius,
Daeth dwndwr gynnau mawr a bom a thanc.
Diflannant, yr un ffunud, i dir angof,
Ac yno ni bydd diwedd ar fy ngwanc.
Gwelsoch y môr yn llyncu gwaith eich dwylaw,
Felly y llyncais innau er cyn co'.
Gadewais garn anhysbys lle bu dinas,
Anghyfanedd-dra lle bu balchder bro.
A geisio wychder Babylon a'i mawrion,
Sylled i'r gwacter a adewais i.
Llwch ei gogoniant, megis Tyre a Sidon,
A'i seiri'n llwch dienw gyda hi.
Ddinas y Rhosyn, a'i rhialtwch trythyll,[1]
A'i heirdd lancesi fel duwiesau noeth;
Hen bentwr o lonyddwch yw, a'r madfall
Yn wincio'n ddioglyd rhwng ei meini poeth.
A esyd pensaer heddiw lun ar femrwn,
Gan addo godidogrwydd teml a thref,
Nad yw fy mysedd anwel ar ei bwyntil,
A'm cynllun innau ar ei gynllun ef?
Syllwch ar wyrthiau'r gof a'r adeiladydd!
Ceir yno rywun sy'n ddyfeisydd mwy.
Y mae fy mhryf wrth fôn pob trawst a philer
Yn turio'n gyfrwys dan eu cryfder hwy.
Boed goch dy rudd, benadur llon, am ennyd,
A'r gwledda'n hwylus wrth dy fyrddau di!
Mor wyn â'r pared gwyn oedd grudd Balsasar
Pan welodd arno fy ysgrifen i.
Galw dy frudwyr a'th astronomyddion
Pan welych arwydd a achoso fraw!
Ni feddant na pherswâd, na swyngyfaredd,
Na thâl a bair im dynnu'n ôl fy llaw.
Tro, yn dy gystudd, at dy hen ffisigwr
A ddofodd, lawer gwaith, dy ddolur di!
Ei lymaid olaf ef, rhag poen a blinder.
Fydd dracht marweiddiol o'm hen gostrel i.
Rhag fy anochel afael ar yr einioes,
Pa wibiad a "ymgêl pan ddêl ei ddydd?"
Nid angof gennyf nebun a dramwyo,
Ffroenaf bob treiglwr fel bytheiad rhydd.
Pan gydiwyf ynoch, yn eich aml drigfannau,
Diffydd eich anadl fel y diffydd llaig.
I'r babell ar y tywod y dynesaf,
I'r gaer a orffwys ar sylfeini'r graig
I bellter y diffeithwch mawr, anghyffin
A ddianc Arab rhag fy asgell gref?
Pan oero'r poethwynt gan ei frys carlamog,
Cyflymach wyf na'i farch cyflymaf ef.
Adeiniog wyf a throediog wrth fy newis,
Chwiliaf yr wybr, y tir a'r cefnfor maith.
Ni ffoes chediad rhag fy erlid dyfal,
Na rhedwr chwim, na nofiwr buan chwaith.
Ieuanc y tariaf yn y castell hynaf
Hyd oni ddêl pob maen i lawr.
Nid yw'r hen dderwen im ond rhith cadernid,
Na chanrif onid ennyd awr.
Pwy rydd i lawr fy oedran anhraethadwy?
Ni'm deil na'ch triliwn, na'ch cwadriliwn chwi;
A phwy a rif ar lechres hen amseroedd
Y cewri fyrdd a gwympais i?
Crugiais fwystfilod yn domennydd distaw,
Teflais y mamwth hyll o fysg y byw.
Hunllef y Naosaur a'r Moa heddiw,
A'r Dinotherium yntau, bwgan yw.
Crynodd y sêr pan ddeuthum ar eu gwarthaf,
Siglodd planedau megis tonnau'r lli.
Diflannodd bydoedd mawrion megis crinddail
O flaen rhyferthwy fy nherfysgoedd i.
Trois o'r dieithrwch pell i'r oesoedd clasur,
A llorio'u doethion pennaf hwy.
Pythagoras a Homer, enwau ydynt,
A'u lle nid edwyn monynt mwy.
Cyrchais guddfeydd yr aur a'r gemau tanlliw
Rhag colli neb a fentrai'r enbyd daith.
Dilynais hen arloeswyr y mwngloddiau,
A'u gado'n dlodion llonydd ar y paith.
Pentyrrais dwf fy niffeithleoedd drostynt
Ymhell o fangre'r yw a'r mynor drud.
Lle cysgant hwy, nid oes na pharch, na galar,
Dim ond gerwinder hen glogwyni mud.
Aeth eraill draw ar gyrch i'r Gogledd unig,
Ac ni bu teithio daear mwy.
Taenais ddistawrwydd eira dros eu hesgyrn,
A phwy a wêl eu hundy hwy?
Myfi'r Gwyliedydd Mawr, myfi sydd yno
A'r creigiau crisiant unlliw'r lloer;
A'r sêr diglywed, pan gyfartho'r morlo,
Yn syllu ar dragwyddoldeb oer.
***
Clyw, fyd rhyfelgar, ddiolch dy goncwerwr !
Dofaist yr unig ofn a'm blinodd i.
Rhag her bedd gwag a sialens maen a dreiglwyd,
Cefais yn darian dy anffyddiaeth di.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cyfeirir ati gan T. E. Lawrence yn ei lyfr, "The Seven Pillars of Wisdom."