Cerddi'r Bwthyn/Gwylan Uwch Cae Gwenith

Oddi ar Wicidestun
Mur Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Ymffrost Brenin Braw

GWYLAN UWCH CAE GWENITH.

GWYLAN deg, eilun y don,—hi a wêl
Fôr heulog yr awron.
Del y nawf cysgodlun hon
Ar ei wenyg claerwynion.

Ai si lleddf y tywys llaes—a'i hudodd
I fro'r cnydau hirllaes?
Morwyn y môr yn y maes
Yma'n hedfan mewn ydfaes!

Sudda'i hesgyll. Cais ddisgyn—ar wynllif
Arianlliw, troi wedyn;
Yna deall nad ewyn
Yw lledrith y gwenith gwyn.


Nodiadau[golygu]