Cerddi'r Bwthyn/Mur

Oddi ar Wicidestun
Bugail Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Gwylan Uwch Cae Gwenith

MUR

NI soniaf am fy ieuanc nwyf,
Torraist fy malchder a'th gadernid du,
A'm dysgu mai carcharor beunydd wyf
Heb ryddid onid atgof am a fu.
Os gwelaf eto nef fy mebyd ffri,
A honno'n ymbellhau o hwyr i hwyr,
Rhagof ni syllaf ennyd nad wyt ti
Yn tragwyddoli fy nallineb llwyr.
Bu holi dwys a'th guro, faen ar faen,
A gwag ddychmygu er esmwytho cur,
Ond clawdd o gerrig beddau sydd o'm blaen,
Caer o fudandod, ansymudol fur.
Felly y gorfydd arnaf, druan caeth,
Ddyrchafu 'nwylo at yr Hwn a'm gwnaeth.


Nodiadau[golygu]