Cerddi'r Bwthyn/Diwedd Medi

Oddi ar Wicidestun
Sion Phylip o Bennar Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Dewi Emrys

DIWEDD MEDI

TROES y lasfro'n llun llonydd,
A newydd swyn iddi sydd
Y rhedyn yn dân gwridog,
Anniffodd lle canodd cog,
Lloffion llawnion berllannau
Ar fin ffrwd gyda'r cnwd cnau,
Crugiau aur dan gloddiau'r glyn,
Miloedd o grinddail melyn,
Eraill yn borffor eirias
Ar ddreindir a gloywdir glas,
A'u gwaedliw yn y goedlan
Fel gwawr effro'r marwor mân.

Ni cheir mwy na chorau maes,
Na chariadferch ar ydfaes,
Eithr rhigol y fen olaf
A rhwysg cynhebrwng yr haf.
Darfu gwawd seindorf y gwŷdd
A dylif trydar dolydd.
Huodledd Anian heddiw
Yw hedd cytûn llun a lliw,
A mwy na threigl maniaith rwydd
Yw ystôr y distawrwydd.
A dawelodd y dilyw
Na bu gwledd i'r neb a glyw?

Od aeth o baradwys dail
Egni hardd geni irddail,
Ceir coelcerth perth ym mhob pant,
Rhed o'r garn wrid i'r gornant.


Tawer lle beier bywyd
A gofyn haf, haf o hyd;
Boed i'r ddôl aberth moliant,
Aberth mwy nag aberth mant,
A'i rym yn yr eurfflam gref
A rydd addurn ar ddioddef.

Os yw'r nyth yn sarn weithian,
Difeth y cwyd afiaith cân.
Bydd dydd llawenydd llawnach
Wedi'r boen i'r adar bach,
A'u gwawd, lle chwalwyd eu gwaith,
Yn coroni cywreinwaith.

Darfydded yr haf addwyn
A llais peroriaeth y llwyn.
Rhag hin galed, cilied cog
Yn ôl i'w hafan heulog.
Aed y wennol dros donnau
I ryw hin bêr o'r hen bau,
A welwyd trafod talar
Nad arhoes golud yr âr?

I'r neb a ranno'i obaith
Rhwng taerni gweddi a gwaith,
Harddaf wobrwy'r haf eurddawn
Yw annwyl hedd ydlan lawn.

Felysed ydyw credu,
A'u lliw hen yn chwerwi llu,
Y daw rhin cyflawnder hedd
A'i win da yn y diwedd!


Fel fy nhaid, enaid uniawn,
Â'i wên lwys a'i ydlan lawn,
Unwedd y mynnwn innau
Ado'r hendir wedi'r hau,
Dwyn golud ei hen galon,
Yr hedd sy'n tawelu bron,
A throi'n fwyn dan addwyn nef
I aeddfedrwydd fy hydref.





J. D. LEWIS A'I FEIBION CYF.

ARGRAFFWYR, ETC.

GWASG GOMER

LLANDYSUL

Nodiadau[golygu]