Cerddi'r Bwthyn/Sion Phylip o Bennar

Oddi ar Wicidestun
Euogrwydd Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Diwedd Medi

SION PHYLIP O BENNAR

I'w angladd ef, angel o ddyn,—nid aeth
Ei ddawn dwym na'i delyn.
Rhoed llwch i lwch, ond ni lŷn
Ei bereiddiaith wrth briddyn.

I'w gofio nid af ar gyfyl—y bedd,
Mae'r ffrind byw yn ymyl.
Her i Angau droi engyl
I hirnos ei geuffos gul.

Nodiadau[golygu]