Cerddi'r Bwthyn/Meistr y Cloeau
Gwedd
← Y Garreg | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Yr Adar → |
MEISTR Y CLOEAU
[Ar ôl ei weld, mewn brawdlys, yn trafod gwahanol gloeau, a'i glywed yn eu disgrifio].
DI, heriwr clymwaith dyrys,—y glewaf
At gloeau anhysbys!
Dy arfer mewn llawer llys
Ydyw edrych a'u dadrys.
Od oes it ddiball allwedd—a egyr
Byrth agos dy dudwedd,
O'th ddinas ferw a'th annedd
Dos at borth distaw y bedd.
Hen ddôr gadarn, haearnaidd,—gwal hiraeth,
Mur galarwyr llwydaidd;
Er cri enfawr gwŷr cawraidd
A'u pwyo trwm, pwy a'i traidd?