Cerddi'r Bwthyn/Yr Adar

Oddi ar Wicidestun
Meistr y Cloeau Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Cwrt yr Ysgol

YR ADAR

O bu ddifeth eu plethwaith,—a erys
Cryndai'r seiri perffaith?
Yn y gwynt, murddun eu gwaith,
Anial eu holl gywreinwaith.

Os yw'r nyth yn sarn weithian,—o'i llunio
Cyfyd llawnach cytgan,
Huodledd dôl a choedlan,
Haelioni mawl yn y man.


Nodiadau[golygu]