Cerddi'r Bwthyn/Cwrt yr Ysgol
Gwedd
← Yr Adar | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Pont y Pentref → |
CWRT YR YSGOL
LANNERCH y filltir gyntaf,
Nefoedd plentyndod yw;
Llamu cyn gweld y ffordd ymlaen,
Chwarae cyn dechrau byw.
Terfyn y byd yw'r gorwel
I'r deiliaid bychain, llon;
Ac ni ddring ofn, nac atgof hen
Dros fur y llannerch hon.
Undydd yw amser yno
Heb iddo gyfrif oed.
O! druan bach o'r hen dad cu
Na fu yn llanc erioed!
Ar daith sy'n arwain obry
At ffrindiau hen a ffoes,
Diolch am ddechrau nad yw'n dwyn
Cysgodion diwedd oes.