Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bwthyn/Pont y Pentref

Oddi ar Wicidestun
Cwrt yr Ysgol Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Porth yr Eglwys

PONT Y PENTREF

DIFYR eu clebran ar y bont
Cyn dyfod dydd y treisio,—
Mor ddifyr fel na chlywai neb
Yr afon wyllt yn lleisio.

Dai, Wil a Shors â'u cellwair ffraeth,
A Ned â'i fwmian sobor,
Un oeddynt gynt yn oedfa'r hwyr,
A'r un yw maint eu gwobor.

Ar fur Tŷ Cwrdd ein pentref bach,
Eu henwau oll a naddwyd;
A saif croesbrennau hwnt i'r môr
I nodi'r fan lle'u claddwyd.

Ond erys cofeb iddynt hwy
Sy'n fwy na'r holl ddyfeisio,—
Distawrwydd beunos ar y bont,
A'r afon wyllt yn lleisio.


Nodiadau

[golygu]