Cerddi'r Bwthyn/Porth yr Eglwys
Gwedd
← Pont y Pentref | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Hiraeth Alltud → |
PORTH YR EGLWYS
PORTH olaf hen bererin
Po Â'i drem ar arall fyd,
A'r hafau a'i diddanai gynt
Yn grinddail mân i gyd.
Mae yno'n cyrchu Nefol Wawr,
A throi ei gefn ar bethau'r llawr.
Caiff gwmni hen gyfoedion,
Oll yn eu dillad parch;
A bydd, pan rodder heibio'i ffon,
Ysgwyddau dan ei arch.
Try porth y cysegr bach yn awr
Yn borth y Tragwyddoldeb Mawr.