Cerddi'r Bwthyn/Y Ddrycin

Oddi ar Wicidestun
Y Llosgfynydd Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Ffos y Clawdd

Y DDRYCIN

I rhiain ddwys sy'n crio—yn ei phoen
A Dan fy ffenestr heno?
Ni chais air i'w chysuro,
Ni ofyn hedd dan fy nho.

Yr awel oer, alarus—ydyw hon
Lle bu'r dydd soniarus.
Darfu'r hedd gorfoleddus,
A chladd y lluwch leoedd llus.

Syllaf yn ofnus allan,—moel yw'r wig,
Moel yw'r ardd a'r berllan.
Rhewin noeth yw'r waun weithian,
Tyllau i'r gwynt yw lle'r gân.

Ger y mur lle gŵyrai Men,—a'i gwrid teg
Fel gwawr tân ar wybren,
Trwy noethni truan aethnen
Daw oerllyd wawr lleuad wen.

Ai hon a deifl golfenni—oer eu drych
Acw ar draws y cenlli?
Lledwyr a llwyd ar y lli
Y llunir moeledd llwyni.

Mae'r dail a emai'r dolydd—yn nychu
Yn sŵn ochain coedydd,
Yntau'r haf dan hyrddwynt rhydd
Yn adfeilion hyd foelydd.


Ysbryd dwys sy'n sibrwd hynt—yr angel
A drengodd mewn corwynt.
Daw murmur cur i'r cerrynt,
A sŵn gwae yw sain y gwynt.

Y rhewynt biau'r heol,—y rhewynt
A rhyw druan crwydrol.
Ceir allwyn ar dwyn a dôl,
A'r gyrwynt lle bu'r garol.

Glaw creulon weithion a ylch—yr heol,
Rhua'r storm o'm hamgylch.
A ddaw i dwlc na ddîylch
Heno'n daer am gaer o'i gylch?

Dua'r nos ar y rhosydd,—a llewych
Y lleuad a ddiffydd.
Fel chwil dyrfa, gŵyra gwŷdd,
Llefa eigion llifogydd.

Deffroes yr araf afon—i neidio'n
Nwydwyllt dros erchwynion.
Hyd erwau llus dryllia hon
Lethrau uchel â'i throchion.

Ewynna ar ewinallt,—a'i gwynllif
Dros ganllaw'n ymdywallt;
Hyrddia'n chwyrn hen gedyrn gallt
Ail brwyn hyd lwybr y wenallt.


Trychineb yn trochioni—yw ei grym,
A'r graig yn wêr iddi.
Yn null y môr y llam hi—dros fawnog
I'w hynt drystiog heb oddef pont drosti.

Ednod a milod y moelydd—a wasg
I gysgod magwyrydd.
Mae'r deri'n ddellt, gwellt yw'r gwŷdd,
Dylif yw hendre'r dolydd.

Rhua'r dŵr gyda'r daran,—a'i yrru'n
Eirias fflam gan drydan.
Mae oer erwau'r môr arian
A dorau'r dydd draw ar dân.

Lle bu erddigan ceir gwegian gwigoedd,
A lle bu eurwawd, chwyrn gantawd gwyntoedd,
Cryndod pinaglau, taranau trinoedd,
Ysgrech eryrod uwch difrod dyfroedd.
A geir glew ar greigleoedd—Eryri
Na ddenfyn weddi o'i hen fynyddoedd?

Eithr a fedr sant droi anterth—y llym wae
Lle med y storm anferth?
Yn y ddrycin, mor ddinerth
Yw cwyn y binc yn y berth?

A eilw gwaedd ryw nefol gôr—i ganu
Ar gynnwrf y cefnfor?
Heno yng nghyngerdd Ionor,
Rhua mil organau'r môr.


Y môr mawr ! Mae'r murmuron—a glywsom?
Mae'r gogleisiol suon?
Ba rhyw gawr a dry'r awron
Daranau braw drwy ein bron?

Od yw'r Iôr yn Dad a rif—Ei rai bach
Ym merw byd a'i genllif,
Ei law fo heno ar lif,
A'i ddeheulaw ar ddylif.

Rhoed i'r twyn anadl fwynach—na'r mawrwynt ;
Rhoed i'r morwr gilfach,
Hyder hefyd i'r afiach,
A thirion berth i'r oen bach.

****
Diau y daw wedi hyn—y gwanwyn,
A'i gynnwrf diddychryn,
I gynnull gwull coch a gwyn
A miloedd o'i sêr melyn.

Agorir pyrth y gweryd—â'i law werdd,
A chlyw'r lluoedd cysglyd.
Yn ei afiaith, cân hefyd
Ei gyrn aur uwch beddau'r byd.

Bydd carolau clychau clod—yn y llwyn,
Lloniant lle bu trallod,
Chwarae ŵyn lle lluwchiai'r ôd,
Mwyniaith lle chwyrnai'r manod.


Araith y fronfraith fireinfryd—a draidd
Draw i'r tangnef hyfryd ;
A'r hoff seraff a sieryd
Iaith Eden uwchben y byd.

Ei cherdd o lannerch irddail—a ddwg wledd
I glust llanc o fugail;
A'i hawen deg yn y dail
A rydd gywydd i'r gwiail.

Daw soned yr uchedydd—i waered
Yn eirias i'r moelydd.
Hwn yw cerub y ceyrydd,
Llais seinber yr uchder rhydd.

Yn y gwawl, uwch sŵn gelyn,—dring yn uwch,
Dring yn nerth yr emyn.
Ei dasg o hyd yw esgyn
A glawio aur Duw i'r glyn.

Ymlêd tangnefedd, fel mwynedd meinwar,
A gemwaith heulwen dros gwm a thalar;
A lle bu'r gwae yn aredig daear,
A'r twrf yn ddychryn i'r bryn a'r braenar,
Dychwel yr hud, a chlyw'r âr,—am ddyddiau,
Hwyl deffro blodau a pharabl adar.

Rhoir cawod bêr i'r caeau,—a'i harddwch
Yn fyrddiwn o liwiau;
Yr Amaethon Iôn yn hau
Ei feysydd ag enfysau.

Nodiadau[golygu]