Cerddi'r Bwthyn/Y Llosgfynydd

Oddi ar Wicidestun
Dail yr Hydref Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Y Ddrycin

Y LLOSGFYNYDD

HEN ffwrn naturiol, uffern y tiroedd,
A'i chorun ufel yn cochi'r nefoedd ;
Mygdwll yr uchder, pair yr aberoedd
A lam yn oddaith o le mynyddoedd.
Is ei goelcerth, mae'r nerthoedd—a dry'n ôl
Her ei dân ysol, gladdwr dinasoedd ?


Nodiadau[golygu]