Cerddi'r Eryri/Can yr Hen Bobl

Oddi ar Wicidestun
Mawrnad Thos Kyffin, Maenan Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Byrder oes Dyn

CÂN YR HEN BOBL.

Hen wr a hen wraig o'r hen ddullwedd,
Ar aelwyd oedd wledig, yn Ngwynedd,
Fin nos wrth y tân,
A unent mewn cân,
Wrth gofio mor agos eu diwedd.

0, pa'm rhaid i henaint ein clwyfo?
Nid oes yma ddim i'n dolurio;
Yn gwau y mae Gwen,
Gwnaf finau lwy bren,¬
Mor ddedwydd mae'r nos yn mynd heibio!

Nid oedd genym ddim yn y dechreu;
Trwy drafferth daeth pobpeth o'r goreu;
Cyd weithiem yn llon,
Ac ysgafn ein bron.
Mewn iechyd, heb wasgfa nac eisiau.

Treuliasom ein bywyd yn foddlon,
Er pan ddaethom gynta'n gyfeillion;
Er ymladd â'r byd,
Mewn ffwdan o hyd,
Erioed ni rwgnachodd ein calon.


Ni roisom ein calon ar elwa,
Na rhodio ffordd galed cybydd-dra;
Ond cawsom heb ffael
Beth rhagor sy i'w gael
Ein gwala a'n gweddill hyd yma.

Er nas gallwn fostio'n haur melyn,
Mae genym ni ferched a bechgyn,
Y rhai sy'n eu bri
Yn anwyl i ni,
Uwch golud anwadal y cerlyn.

Ond gwelsom rai troion rhyfeddol,
Yn ystod ein gyrfa ddaearol;
Newidiwyd rhai'n fawr,
Rhai fyny, rhai lawr,
Aeth llawer i'w cartref trag'wyddol.

Pa ddyben yw siarad am elwa?
Mae'n amlach gyfyngder a gwasgfa:
Buom ni yn o hir
Mewn prinder, yn wir,
Er na buom eto'n cardota.

Yn ty hwn dechreu'som gydfydio,
A hir buom dad a mam ynddo;
Gall ddal i ni 'mlaen,
Er nad yw'n waith maen,
Nes awn i wlad well i breswylio.

A phan ddaw yr awr i ymddatod,
Cain huno mewn heddwch cydwybod,
A gorphwys mewn hedd
Yn nyfnder y bedd,
Heb deimlo na blinder na thrallod.

O, pa'm rhaid i henaint ein clwyfo?
A ninau heb ddim i'n gofidio;
Awn adre'n y man,
I dderbyn ein rhan,
Ac eraill ddaw yma i breswylio.
CYNDDELW

Nodiadau[golygu]