Cerddi'r Eryri/Cyflafan Morfa Rhuddlan

Oddi ar Wicidestun
Molawd Cymru Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Cymru Lan Gwlad y Gan

"CYFLAFAN MORFA RHUDDLAN."

TON—Morfa Rhuddlan

Cilia'r haul draw, dros ael bryniau hael Arfon;
Lleni'r nos sy'n myn'd dros ddol a rhos weithion;
Pob rhyw chwa ymaith a gilia o'r llwyni :
Ar fy nghlust draw mae, ust, y dôn yn dystewi;
Dan fy mron clywai'm llon galon yn curo,
Gan fawr rym digter llym, wrth i'm fyfyrio
Ar y pryd pan fu drud waedlyd gyflafan,
Pan wnaed brad Cymru fad ar Forfa Rhuddlan.

Trwy y gwyll gwelaf ddull teryll y darian;
Clywaf sî eirf heb ri’arni yn tincian,
O'r bwâau gwyllt mae'n gwau, saethau gan sîo;
A thrwst mawr, nes mae'r llawr rhuddwawr yn siglo;
Ond uwch sain twrf y rhai'n, ac ochain y clwyfawg.
Fry hyd nef clywir cref ddolef Caradawg, "
Rhag gwneyd brad ein hen wlad, trôwn eu câd weithian,
Neu caed lloer ni yn oer ar Forfa Rhuddlan "!

Wele fron pob rhyw lon Frython yn chwyddo,—
Wele'u gwedd, fel eu cledd fflamwedd, yn gwrido;
Wele'r fraich rymus fry'n dyblu'r ergydion;
Yn eu nwy' torant drwy lydain adwyon :
Yr un pryd Cymru i gyd gyfyd ei gweddi,
“Dod yn awr nerth i lawr, yn ein mawr gyni,
Boed i ti, O! ein Rhi, noddi ein trigfan;
Llwydda'n awr ein llu mawr ar Forfa Rhuddlan.”!

Troswyf daeth, fal rhyw saeth, alaeth a dychryn,
Och! rhag bost bloeddiau tost ymffrost y gelyn:
Ond O! na lawenha, fel a wnai orchest;
Nid dy rym, ond dy ri' ddug i ti goncwest,
Ow! rhag braw'r dorf sy draw'n gwyliaw o'r drysau
Am lwydd cad Cymru fad,—rhad ar ei harfau;
Mewn gwyllt fraw i'r geillt fry, rhedy pob oedran,
Wrth wel'd brad gwŷr eu gwlad ar Forfa Rhuddlan.


Bryn a phant, cwm a nant, lanwant a’u hoergri,
Traidd y floedd draw i g'oedd gymoedd Eryri:
Yr awr hon y mae llon galon hen Gymru,
Am fawr frêg ei meib teg, gwiwdeg, yn gwaedu:
Braw a brys sydd drwy lys parchus Caradog;
Gwaeddi mawr fyn’d i lawr flaenawr galluog;
Geilw ei Fardd am ei fwyn delyn i gwynfan,
Ac ar hon tery dôn hen "Forfa Rhuddlan."!

Af yn awr dros y llawr gwyrddwawr i chwilio:
Am у fan mae eu rhan farwol yn huno:
Ond y mawr Forfa maith yw eu llaith feddrod;
A'i wyrdd frwyn, a'r hesg lwyn, yw eu mwyn gofnod,
Ond caf draw, gerllaw'r Llan, drigfan uchelfaith
Ioan lân, hoffwr cân, diddan gydymaith;
Ac yn nhy'r Ficar fry, gan ei gu rian,
Llety caf, yno'r af o Forfa Rhuddlan.

I. G. GEIRIONYDD.

Nodiadau[golygu]