Cerddi'r Eryri/Hen Wlad fy Nhadau
Gwedd
← Cân yr Arwest | Cerddi'r Eryri Cerddi gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd) Cerddi |
Cerdd y Cymreigyddion → |
HEN WLAD FY NHADAU.
Ton—Hen Wlad fy Nhadau
Mae hen wlad fy nhadau yn anwyl gan i,
Gwlad beirdd a cherddorion enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Dros ryddid collasant eu gwaed.
BYRDWN
Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra mor yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn i'm golwg sydd hardd,
Trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd i fi.
Gwlad, gwlad, & c.
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra mor yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau,