Cerddi'r Eryri/Cerdd y Cymreigyddion
← Hen Wlad fy Nhadau | Cerddi'r Eryri Cerddi gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd) Cerddi |
Hiraeth y Bardd am ei Hen Wlad → |
CERDD Y CYMREIGYDDION.
Ton—Calon Derwen.
Dowch, Gymreigyddion, y Brython da eich bri,
I gofio eich hen dadau, da raddau di ri?
Rhaid i chwi gydnabod bob alod yn bur,
Nad ydyw gwag redeg coeg Saes'neg ond sur;
Plant Cymru da eu rhyw, mae llwyddiant i'n llyw,
I gadw ein harferion tra byddom ni byw.
A dwedwn i gyd, hardd frodyr un fryd,
Ein hiaith a barhao, a llwyddiant a'i cadwo,
Heb loes, trwy bob oes, trwy bob oes, tra bo byd!
BYRDWN—A d'wedwn i gyd, &c.
Pwy ddichon draethu, neu haeru ar ei hynt,
Mor wychol oedd moddau'r hen gampau wnaed gynt;
Cadw trwy ryfel yr hoedel o hyd,
A churo ar filwriaeth holl benaeth y byd;
Er cyni o fyd caeth, ni fyddent ddim gwaeth,
Yr hen Gymry calonus oedd drefnus ar draeth.
Aeth Madog heb dra, a'i ddyfais oedd dda,
Hyd wyneb y dyfroedd, a'i lestr a hwyliodd,
T:rwy nerth y moroedd certh, moroedd certh, i'r America!
BYRDWN,—Aeth.Madog heb dra, &c.
Ac eto'n rhai gwychol, mae buddiol ein bod,
Hiliogaeth glan Cymru, yn glynu yn y glod,
Ni chollwn mo'n Breintiau o'n moddau'n un man;
Cynhaliwn gadernid ein Rhyddid i'n rhan;
Gan hyny, ar bob taith, amddiffynwn ein Hiaith,
Pwy sydd yn amheuol nad gwychol ein gwaith!
A d’wedwn i gyd, hardd frodyr un fryd,
Ein Hiaith a barhao, a llwyddiant a'n cadwo,
Heb loes, trwy bob oes, trwy bob oes, tra bo byd!
BYRDWN,—A d'wedwn i gyd, & c.