Cerddi'r Eryri/Hiraeth y Bardd am ei Hen Wlad

Oddi ar Wicidestun
Cerdd y Cymreigyddion Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Molawd Cymru

HIRAETH Y BARDD AM EI HEN WLAD.

Ton—Hiraeth y Bardd

Er cael pleserau yn ngwlad y Sais,
A gweld ei ddyfais wiwber,
Mae gwlad yr awen, geinwen gell,
Er hyny'n well o'r haner;
Ei hawel iach, a'i melus ddw'r,
A chyflwr ei thrigolion.—
Wrth gofio'i Beirdd rhyw hiraeth draidd
Drwy giliau'r wanaidd galon.

Braidd na dd'wedwn yn ddi wad
Mai nefol wlad yw Cymru;
O, na b'ai’nhraed yn sengu ar hon,
Ar finion ceinion Conwy.

Ac O, mor gynar yn ein gŵydd,
Ar bren frig. bydd y bronfraith,
A'i nodau 'n glir, newidiog lef,
Yn moli'r nef mewn afiaeth;
A'r enwog fwyalch, gyda'r dydd,
Ar gan a rydd ogoniant,
Ar frigyn pren, dan glogwyn serth,
Caeadnerth uwch y goednant.

Braidd, &c.

Mae'r Sais yn dangos im' bob dydd,
Mewn gwir, ei rydd hawddgarwch;
A'r nos caf ganddo wely clyd,
A digon byd o degwch;
Ond pan fo’m corph yn ' huno'n ber,
Ar wely tyner madblu,
Fe gwyd fy yspryd, ac fe 'hed
I'mweled a thir Cymru.

Braidd, & c.

Ac wedi deffro gyda'r dydd,
Mor bruddaidd fydd y galon
Nid daear Cymru fydd fy lle,
Ond canol tre' Manceinion;

Cyn codi'r haul o'r dwyrain draw,
Yr yspryd ddaw i'w lety,
I brudd fyfyrio fel y bu
Yn nghanol teulu Cymru.

Braidd, &c.

Yn nyffryn Conwy mae fy nhad
Yn nghanol mad gyfeillion,
Ac yno bydd nes geilw Duw,
Ar alwad, wyw farwolion:—
Cael benthyg bedd wrth ystlys hwn
A wir ddymunwn inau,
I orphwys nes daw'r meirw'n ol
O garchar ingol angau.

Braidd na dd'wedwn yn ddiwad
Mai nefol wlad yw Cymru;
O, na b'ai 'nhraed yn sengu ar hon
Ar finion ceinion Conwy.

Llansantffraid G.C......JOHN JONES.

Nodiadau[golygu]