Cerddi'r Eryri/Mae Pawb a Phob peth yn myn'd yn Hen

Oddi ar Wicidestun
Bugail Aberdyfi Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Clychau Aberdyfi

MAE PAWB A PHOBPETH YN MYN'D YN HEN

A fuost ti'n meddwl y cyfaill mwyn,
Fod amser yn llithro dan dy drwyn;
O ddydd i ddydd, ac o awr i awr,
Wrth deithio, sefyll, ac eistedd i lawr;
Wrth fwyta, ac yfed, a rafio'n ffri,
Yn nghwsg, ac yn effro, ffwrdd a ni,
Ac os edrychwn drwy ddrws ei drên,
Cawn bawb a phobpeth yn myn'd yn hen.

Tra casgla'r cybydd, tra gwaria'r hael,
Tra llid a mwynder, colled a mael;
Tra cara'r llanciau lodesi glân,
Tra plethaf finau englyn a chan,
Tra'r bonedd yn byw ar winoedd a bîr,
A'r tlawd yn griddfan yn ngweithdy'r sir,
Pasio mae'r byd drwy alar a gwên,
A phawb a phobpeth yn myn'd yn hen.

Mae'r hen Eisteddfodau difyr gynt,
A'r delyn a'r gerdd, yn dilyn y gwynt,
Chwar'yddion Llundain uwch ben y llu,
Sy'n wallt eu dawn, a'r beirdd naill du!
Yr hen ddatgeiniaid yn dianc o'r byd,
Awdl y Gadair, a'r cwbl i gyd,
Mae'r iaith Gymraeg a'i llafar a'i llen,
A phawb a phobpeth yn mynd yn hen.

Y Gwyliau sy'n dod, a'i gelyn glas,
A'i gyflaith, a'i bwding, a'i wyddau bras;
Daw'r plant i enyn chwerthiniad iach,
I'r aelwyd gynęs yn Nghymru bach;
Ac er na welsoch chwi cystal erioed,
Mae Ann a Timothy'n cario'u hoed,
O wyl i wyl, ac o wên i wên,
Maent hwythau hefyd yn myn'd yn hen.


Glendid a chryfder sy'n myn'd yn myn'd,
A chwith yw edrych ar lawer ffrynd;
Mae Jane yn rhedeg i oedran syn,
Ac Wmffra'n dallt fod ei wallt yn wyn;
Camach yw gwar Meredydd a John,
Meinach yw trwyn Miss Edith y Fron;
A danedd gosod sy lond ei gen,
Yn wir, mae hithau'n myned yn hen.

Canwyd y clych. ond doe ydoedd hyn,
Diwrnod priodas Elen y Bryn;
Bellach y wledd anghofiodd y wlad,
Mae Elen yn fam, a Gwilym yn dad;
Wrth gym'ryd eu siawns yn glaf ac yn iach,
Ymguro a byw, a magu rhai bach,
Nesu mae'r trwyn i ymyl yr en
A Gwilym ac Elen yn myn’d yn hen.

Yn 'hedeg mor gyflym un dim nid oes,
I'w hynt a phedwar tymhor ein hoes,
Mynyd yn chwareu, mynyd yn llanc,
Mynyd yn wr, a mynyd ar dranc:
Waeth ini d’lodi mor llawer iawn,
Na chyfoeth a moethau y palas llawn,
Tarth ydyw pleser, gwagder yw gwen,
Mynyd yw'n hoes, rhaid myned yn hen.
TREBOR MAI.

Nodiadau[golygu]