Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Eryri/Clychau Aberdyfi

Oddi ar Wicidestun
Mae Pawb a Phob peth yn myn'd yn Hen Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Anwylaf Wlad fy Nghalon

CLYCHAU ABERDYFI

Ton - Clychau Aberdyfi

Os wyt ti'n fy ngharu i,
Fel r'wyf fi'n dy garu di
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.
Un dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi:


Hoff gan fab yw meddu serch,
Y ferch mae am briodi;
Hoff gan inau yn mhob man,
Am Morfydd Aberdyfi,
Os wyt ti'n fy ngharu i,
Fel rwyf fi'n dy garu di,
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.

Tra bo llanw, trai, a lli,
Yn fy nghalon caraf di:
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.
Os y byddi'n wraig i mi,
Ni flinaf fi'n dy hoffi;
Beunydd gwnawn ymlawenhau,
Fel Clychau Aberdyfi.

Os wyt ti'n fy ngharu i,
Fel rwyf fi'n dy garu di,
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.

Nodiadau

[golygu]