Cerddi'r Eryri/Y Morwr Mwyn
← Gweno Fwyn Gu | Cerddi'r Eryri Cerddi gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd) Cerddi |
Yr hen amser gynt pan oedd Bess yn teyrnasu → |
Y MORWR MWYN.
Ton—Y Morwr Mwyn
I nodi'r man rhoir meini hardd,
Lle hûn rhai hoff mewn hedd,
Ac englyn geir o fri gan fardd,
Neu wers i gofio'r bedd;
Ond maen ni cheir er côf na chwyn,
I nodi bedd y Morwr mwyn.
Yn nghladdfa'r llan gwerdd ywen sydd
Yn gwâr gysgodi'r bedd;
A chesglir perion flodau blydd,
I hulio'r gwely hedd;
Ond ywen las na blodau llwyn,
Ni huliant fedd y Morwr mwyn.
Cwsg ef yn mhell o'i anwyl fro,
A i lân ( O! lymed ) wedd,
Lle mae tymestloedd lawer tro
Yn rhuthro tros ei fedd;
Ond un ar dir a ddeffry gwyn
Mynwesawl am y Morwr mwyn.
Ac aml mae un bêr ei bron.
Ar lan у môr fin du,
Yn dal cyfeillach gyda'r don,
Ei serch heb farw sy;
Ond grudd laith, llygad llawn, a chwyn,
Sydd ganddi am ei Morwr mwyn.
Dymuniad ddaw o'i mynwes lân,
Lle gwnaeth gwir gariad graith,
I'r wylan ddwyn ei galar gân,
Dros fôr a'i donau maith;
Fy ngeneth taw, angofia'th gwyn,
Dy lais ni chlyw y Morwr mwyn.
Na chrwydra, Gwen, y morlan maith,
Pob deigryn ofer yw;
Nis gwyr dy gariad alar chwaith,
Na gwae dy fynwes friw;
Uwch gwely'r heli nid oes cwyn
A ddeffry gwsg y Morwr mwyn.
Dwg gysur clau, ryw ddydd a ddaw,
Y geilw'r udgorn ef,
O eigion mor heb boen na braw,
Caiff uno eur-blaid nef.
Dos at yr Iôn, taer weddi dwyn,
Cei eto gwrdd â'r Morwr mwyn.
GWENFFRWD