Cerddi Hanes/Caradog

Oddi ar Wicidestun
Merch y Mynydd Cerddi Hanes

gan Thomas Gwynn Jones

Arthur Gawr

Caradog.

HYD ystrydoedd dinas Rufain
Tyrra lluoedd gyda'r wawr;
Gwelir wrth eu gwisg a'u crechwen
Ddyfod rhyw ddiwrnod mawr.

Dros y môr yn nhir y Brython,
Hir a chyndyn ydyw'r gad;
Ond lle methodd grym a gwryd,
Lluniodd ystryw benyw frad.

I fodloni nwydau'r dyrfa,
Boblach o bob llun a lliw,
Dygir heddiw'n garcharorion
Rai a fu elynion gwiw.

Pennaf o'r gelynion hynny
Oedd Caradog, borth ei wlad;
Nid oedd a safasai rhagddo
Pe buasai deg y gad.

Trechodd am flynyddoedd meithion,
Lengoedd Rhufain dro ar dro,
Brad a'i daliodd yn y diwedd—
Parth y bai ni byddai ffo.


Wele'r milwyr yn ymdeithio
A'u baneri yn y gwynt;
Yn eu canol mewn cadwynau
Mae a fu benaethiaid gynt.

Cerddant draw yn drist eu golwg,
Ond mae acw yn eu mysg.
Un a gerdda'n frenin eto,
Er y gadwyn drom a lusg.

Cenfydd hithau, 'r dorf Rufeinig,
Mai efô yw'r gŵr fu gynt
Yn gwasgaru ei byddinoedd
Fel dail o flaen y gwynt.

Meddant : Dacw ef y Brython!"
Yna llefant am ei waed;
Ond ni syll y Brenin arnynt
Mwy na'r llwch o dan ei draed.
Dygir ef i'r llys odidog

Lle mae mawrion fwy na mwy,
Oll yn disgwyl am ei weled,
A'r ymherodr gyda hwy.

Yna erchir iddo blygu.
I'r ymherodr ar ei sedd;
Beth!" ebr ef, a'i law yn ofer
Chwilio le bu carn ei gledd.


Plygu iti?" medd Caradog,
Nid tydi ar faes y gad
Aeth a'r dydd, a daliwyd finnau,
Nid trwy frwydrau, ond trwy frad.

Os wyt ti yn frenin Rhufain,
Brenin finnau fel tydi;
Ac anrhydedd fy hynafiaid
Dewrion, nis difwynaf i.

"Yn fy ynys, ar genhedloedd
Lawer y teyrnaswn i,
Ac nid gormod gennyf ymladd
Drostynt hwy i'th erbyn di.

"Yn dy wychter mawr a'th gyfoeth,
Ba ryw beth a fynnit ti?
Gwael it geisio dwyn ein hynys
Fechan oddi arnom ni.

Rhyddid, onid gwerthfawr ydyw
Hwnnw yn dy olwg di?
Rhyddid, gwerthfawroced ydyw
Hefyd yn ein golwg ni.

"Dygaist fi'n garcharor yma,
Grym a roddas Ffawd i ti—
Eto gwybydd, Brenin ydwyf,
Ac nid byw a'm plygo i!"


Ac ni allodd pennaeth Rhufain
Lai na theimlo'r ennyd hon
Fod yn sefyll mewn cadwynau
Yno Frenin ger ei fron.

Dygwyd di'n garcharor yma,"
Meddai, "ond ni'th laddaf i,
Canys gwir mai Brenin ydwyt,
Cei dy ryddid yma, di!"

Nodiadau[golygu]