Cerddi Hanes/Merch y Mynydd
← Cynnwys | Cerddi Hanes gan Thomas Gwynn Jones |
Caradog → |
Cerddi Doe.
Merch y Mynydd.
I.
I HELA aeth mab y Brython un dydd,
A chrwydrodd ymhell o dŷ ei dad;
Ar ôl ei gŵn ar drywydd yr hydd
Cyrchodd y wyllt anghyfannedd wlad.
A'r haul yn uchder y nef, e ddaeth
I lannerch werdd yng nghanol y coed,
A sefyll yno dan lwyn a wnaeth—
Ni welsai fangre brydferthach erioed.
Teg oedd y dail a'r blodau i gyd,
Glân oedd y mwsogl aur dan droed,
Ond tegach y ferch a safai'n fud
Dan fedwen arian yng nghwr y coed.
Du oedd ei gwallt fel cwmwl y nos
Pan na bo seren ar faes y nef,
A thonnog megis merddwr y rhos
Pan grycho awel ei wyneb ef.
Gloywddu a dwfn oedd ei llygaid hi,
Llygaid welai freuddwydion syn;
Ei thâl cyn wynned ag ewyn lli,
A'i mynwes megis yr eira gwyn.
A'r Brython eto'n ei gwylio'n fud,
Canu yn beraidd a wnaeth y ferch,
A theimlodd yntau ryfeddol hud
Y gân, a'i galon yn glaf o'i serch.
Mynnai y Brython ei dal a'i dwyn.
Adref yn wraig iddo ef ei hun;
Neidiodd yn hoyw o gysgod ei lwyn—
Hoywach i'r coed neidiodd y fun.
Chwiliodd yntau amdani yn hir,
A gwelodd hi'n dringo'r clogwyn fry;
Clywodd ei chân yn groyw ac yn glir
Fel y diflannai mewn ogo ddu.
Ac âi y Brython beunydd ei hun
I'r llannerch werdd dan glogwyn y rhos
I ddisgwyl eto weled y fun
Ag wyneb y dydd a gwallt y nos.
Clywodd ei chanu megis o'r blaen,
Mynych y gwelodd hithau ei hun
Fry yn ei wylio yng nghysgod maen,
Yna, fel breuddwyd, diflannai'r fun.
Safodd ar odre'r clogwyn mawr
Un dydd, a galw pan welai hi:
"Riain y mynydd ! dyred i lawr,
Tegach na merched y glyn wyt ti!"
Clywodd ei hateb o ben y maen
(Mwyn oedd ei llais fel murmur y lli):
"Fab y gwastadedd, dyred ymlaen,
Cryfach na meibion y graig wyt ti!"
"Dyred, mae gennyf, riain y bryn,
Wartheg a meirch yn y glyn islaw; "
Mae gennyf innau, bennaeth y glyn,
Ddefaid a geifr ar y creigiau draw."
"Dyred i'm canlyn, tegach wyt ti
Na'r fun wallt—felen a'r llygad glas; "
"Gwae fi pe down ar ei chyfyl hi—
Mawr yw ei chariad, mwy yw ei chas."
"Gwae a fo gas wrth a garwyf i,
Deffro fy nghleddau, nid oes a'i baidd;
"Creulon a llym yw dy arfau di,
Garwach eu brath na dannedd y blaidd."
Creulon a llym yw fy arfau i,
Eto er garwed eu brath yn awr,
Pyled eu min cyn dy daro di,—
Riain y mynydd, dyred i lawr."
"Fab y gwastadedd, pe deuwn i,
Beth gyda thi a fyddai
"Priod y pennaeth a fyddit ti, myd?"
Pen ar rianedd y llys i gyd."
"Hardd yw dy rodiad ar draws y bryn,
Cryfach wyt ti na meibion y graig;
"Tegach dithau na merched y glyn,
Riain y mynydd, bydd imi'n wraig."
"Priod y pennaeth a fyddaf i,
Pen ar rianedd y llys i gyd,
Ond os ag arf y'm cyffyrddi di,
Mwy ni'm gweli er chwilio'r byd."
A dug y Brython yn llon ei wedd
Ferch y Mynydd i dŷ ei dad,
Lle bu yn arglwyddes llawer gwledd
A'i chân yn swyno gwŷr y gad.
II.
Un dydd i hela'r hydd ar y rhos
Aeth y Brythoniaid o lys y glyn,
Y pennaeth ar farch cyn ddued a'r nos,
A'i wraig i'w ganlyn ar balffrai gwyn.
Cododd yr hydd a chanwyd y cyrn,
A'r Arglwydd, tynnu ei fwa a wnaeth,
Oni chyffyrddodd wrth droi yn chwyrn
Law ei arglwyddes â blaen y saeth.
Clywsant y ddolef dristaf erioed,
Ac yna gwelwyd y palffrai gwyn
Draw yn carlamu, ac yn y coed
Collwyd yr olwg ar ferch y bryn.
Chwiliodd y pennaeth yn hir ei hun
Drwy goed y glyn, hyd fynydd a rhos,
Ond mwy ni welodd llygad mo'r fun
Ag wyneb y dydd a gwallt y nos.
Pan wylai'r plant am weled eu mam,
Rhyw ganu trist a glywai y tad:
"Cadw fy merch rhag gofid a cham,
A chadw fy mab rhag perygl y gad!