Cerddi Hanes/Ogof Arthur

Oddi ar Wicidestun
Arthur Gawr Cerddi Hanes

gan Thomas Gwynn Jones

Maelgwn Gwynedd

Ogof Arthur.

I.

RHODIAI gŵr yn araf unwaith
Heibio'r llannerch yng Nghaer Ludd,
Lle bu lys yr hen Frythoniaid—
Gwych oedd hwnnw yn ei ddydd.

Estron oedd y gŵr a chrwydrad,
Tlawd a thruan ar ei hynt,
Ac ni wyddai'i fod yn rhodio
Lle bu gastell Arthur gynt.

Llaes ei wallt a llym ei lygad,
Byr ei gam a'i gefn yn grwm,
Ar ei ffon las onnen gnapiog,
Pwyso'r oedd y gŵr yn drwm.

Ag efô yn mynd yn araf,
Araf heibio'r lle bu'r llys,
Daeth rhyw henwr i'w gyfarfod,
Safodd, cododd arno fys.

Yntau'n dal i gerdded rhagddo,
"Aros," medd yr henwr llwyd,
"Ni bydd ofer iti wrando,
Aros, onid Cymro wyd?"


Yna safodd yntau'r estron;
Meddai, "Cymro ydwyf i
Wedi gadael gwlad ei dadau;
Dywed beth a fynnit ti."

Medd yr henwr bychan yntau,
Mynnwn i yr hyn a ddaw;
Ple y cefaist ti y pastwn
Onnen yna sy'n dy law?"

Eiddof ydyw," medd yr estron,
"Ni waeth ble y cefais hi;"
Gwrando," medd yr henwr yntau,
"Gwell it pe'm atebit ti."

"Torrais hi ar lethr Elidir,
Lle mae llwyni cyll ac ynn,'
Medd yr estron, yntau'n henwr,
Gwrando'r oedd a syllu'n syn.

Meddai: "Tyfodd hon ar foncyff
Sydd o'r golwg yn y llawr,
Ac o dan y boncyff hwnnw
Y mae genau ogof fawr.

'Cwsg y brenin a'i farchogion
Yn yr ogof uthr ei maint,
Oni ddêl a'u geilw i ymladd
Eto dros eu bro a'u braint.


Cwsg y drudion dan eu harfau
Oll o gwmpas Arthur gawr;
Yn y canol mae trysorau,
Meini gwyrth a golud mawr.

"Mae ynghrôg wrth gadwyn haearn.
Gref yng ngenau'r ogo gloch,
Pan gyffyrdder tafod honno,
Cân yn uchel ac yn groch.

Ar ei chaniad, try'r marchogion,
Twrf eu heirf yn clecian fydd;
Cyfyd pawb ei ben a gofyn
Arthur Gawr "A ddaeth y dydd?"

"Ac o daw ar hynny'r ateb
Iddo, "Cwsg, ni ddaeth yr awr,"
Gorwedd Arthur a'i farchogion
Eto yn eu trymgwsg mawr.

Cysgant oni ddêl a etyb
Felly Deffro, daeth y dydd;
Cyfyd Arthur a'i farchogion,
A daw'r Brython eto'n rhydd."

Troes y gŵr yn syn i holi,
Holi am yr ogof fawr,
Ond nid oedd yr henwr yno-
Aeth fel pe'i llyncasai'r llawr.


II.

Crwydrodd yntau'r gŵr a'r onnen,
Daeth hyd lethr Elidir fawr,
Ac fe gafodd yno'r boncyff
Oedd o'r golwg yn y llawr.

Troes y boncyff draw, a chafodd
Enau'r ogo dano'n glir;
Ac wrth gadwyn haearn yno
Crogai cloch a thafod hir.

Aeth y gŵr i mewn yn araf,-
Crynu'r ydoedd yn ei fraw,
Weled Arthur a'i farchogion
Yno'n cysgu ar bob llaw.

Gloywon ydoedd eu tariannau
Fel y lloer pan fo yn llawn,
A'u cleddyfau yn disgleirio
Megis pelydr haul brynhawn.

Dug y gŵr o'r trysor lawer,
Ond wrth fyned heibio'r gloch,
Fe'i tarawodd oni chanodd
Hithau'n uchel ac yn groch.

Troi a ddarfu i'r marchogion
Oni thinciai'r arfau'n rhydd,
Cododd pawb ei ben a galwodd
Arthur Gawr, "A ddaeth y dydd?"


Yna cofiodd ac atebodd
Yntau " Cwsg, ni ddaeth yr awr;
Suddodd Arthur a'i farchogion
Oll yn ôl i'w trymgwsg mawr.

Lawer tro bu'r gŵr yn chwilio
Am yr ogof wedi hyn,
Ond ni welodd fyth mo'r llannerch
Rhwng y llwyni cyll ac ynn.

Ond pan ddêl yr awr, daw'r arwr,
Etyb "Deffro, daeth y dydd,"
Cyfyd Arthur a'i farchogion,
A daw'r Brython eto'n rhydd.



Maelgwn Gwynedd.

MAE lluoedd yr Eingl o'r tir yn torri
Cymru Cunedda Wledig yn ddwy,
A lladron môr ar draeth y gorllewin
Yn gwibio a glanio fwy na mwy.

A Maelgwn Gwynedd, anfonodd ddyfyn
At dywysogion gwlad Gymru oll,
Maent hwythau erbyn heno'n gwersyllu
Ger Aberdyfi, heb un yngholl.

Llawer ystafell sy dywyll heno,
Heb dân, heb gerddau, heb fedd na gwin;
A llawer pennaeth ar faes yn huno
A bardd dan arfau yn gwarchod ffin.

A bardd a'i bwys ar ei wayw yn syllu
Draw tua'r môr dros y tywyll ros,
Lle'r oedd y bore dyrau mynachlog,
Fflamau a genfydd drwy wyll y nos.

"Och!" medd y bardd, "ai tân y gelynion
Acw'n difa'r fynachlog y sydd ?
Anfon, O Dduw, ddialwr dy weision.
I ddifa'r estron ar glais y dydd !"


Nodiadau[golygu]