Cerddi Hanes/Maelgwn Gwynedd

Oddi ar Wicidestun
Ogof Arthur Cerddi Hanes

gan Thomas Gwynn Jones

Coron Cadwallon

Maelgwn Gwynedd.

MAE lluoedd yr Eingl o'r tir yn torri
Cymru Cunedda Wledig yn ddwy,
A lladron môr ar draeth y gorllewin
Yn gwibio a glanio fwy na mwy.

A Maelgwn Gwynedd, anfonodd ddyfyn
At dywysogion gwlad Gymru oll,
Maent hwythau erbyn heno'n gwersyllu
Ger Aberdyfi, heb un yngholl.

Llawer ystafell sy dywyll heno,
Heb dân, heb gerddau, heb fedd na gwin;
A llawer pennaeth ar faes yn huno
A bardd dan arfau yn gwarchod ffin.

A bardd a'i bwys ar ei wayw yn syllu
Draw tua'r môr dros y tywyll ros,
Lle'r oedd y bore dyrau mynachlog,
Fflamau a genfydd drwy wyll y nos.

"Och!" medd y bardd, "ai tân y gelynion
Acw'n difa'r fynachlog y sydd ?
Anfon, O Dduw, ddialwr dy weision.
I ddifa'r estron ar glais y dydd !"


Tyrr y wawr yn oer ac yn araf,
Lled ei gwawl dros yr eigion glas,
A dengys gannoedd o'r llongau duon,
A'r traeth yn frith gan y gelyn cas.

A chyfyd lluoedd y tywysogion
I gyrchu'n eofn i faes y gad—
Pa le yn awr y mae Maelgwn Gwynedd.
A'i lu, yn nydd cyfyngder ei wlad?

Maelgwn, a wysiodd y tywysogion
Oll i gyngor o'r gogledd a'r de,
Ac eto heddiw yn wyneb y gelyn
Nid oes bennaeth yn ôl ond efe!

Mae'r traeth yn ddu gan luoedd yr estron,
A blaen eu byddin yn treiddio'n hy
I mewn i'r wlad hyd gymoedd a nentydd,
A thanau yn dangos llwybrau'r llu.

"Rhuthrwn i'w canol!" medd Cynan Powys,
Trenged pob un rhwng y dur a'r dŵr,
A bydded mwyach yn wledig Cymru
A fo yn y gad yn ehofna gŵr!

Rhuthro ar hyn y mae'r tywysogion
A dilyn pob un y mae ei lu,
Megis llifogydd y gaea'n neidio
Yn grych eu rhediad, yn groch eu rhu.


Rhuthrant i lawr y cymoedd a'r nentydd,
A'r coed a'r creigiau'n ateb eu llef;
Hyrddiant y lladron yn ôl o'u blaenau
Fel crinddail hydref rhag tymestl gref.

Ffoant, troant, arafant, safant,
Yn dwr aneirif ar fin y don,
Pob gŵr a'i gledd yn ei law yn barod,
Pob un a'i darian o flaen ei fron.

A dacw fyddin y tywysogion
Yn llifo ymlaen fel tonnau'r môr,
A'r mynaich ar lethr y bryn cyfagos
A'u gweddi yn daer am nawdd yr Iôr.

Cryn y ddaear gan hwrdd y byddinoedd,
Aruthr y tery blaenrhes. y ddwy,
Fel y bydd tonnau deufor gyfarfod
A thymestl gref yn eu corddi hwy.

Yno ni chlywir ond sŵn ergydio,
Ennyd, ni chyfyd na gwaedd na chri;
Torrant, mae'r estron yn ffoi i'w longau
A'i waed yn cochi ewyn y lli.

A'r llongau duon yn codi hwyliau,
I gau amdanynt daw llynges wen,
Llynges brenin y gogledd ydyw,
A Maelgwn ei hunan arni'n ben.

Ac ni ddihangodd o'r llongau duon
Un i fynegi hanes y gad—
Cadwodd Maelgwn yr oed a wnaethai
Yntau a thywysogion y wlad.

"Myfi yw'r Gwledig," medd Cynan Powys,
Myfi oedd flaena'n yr ymgyrch hon;
"A minnau," atebai Maelgwn Gwynedd,
"A'u rhoes yn isel o dan y don!"

Yna bu cyngor y tywysogion
Ar faes y gad yn y fan a'r lle
I geisio dewis y gŵr a fyddai
Wledig Gymru yn ogledd a de.

A hir a fu'r drafod ac ofer hefyd
Hyd oni lefarodd Maeldaf Hen—
"A safo hwyaf rhag llanw yr eigion,
Bydded wledig wrth arwydd ein Rhen."

Pan oedd y tywysogion yn cysgu,
A'u gwŷr o'u hamgylch oll ar y rhos,
Gwneuthur cadair o edyn cwyredig
A ddarfu Maeldaf yn oriau'r nos.

Cyrchu o'r tywysogion yn fore
Drannoeth i lawr hyd y tywod mân,
A Maeldaf Hen yn dodi cadeiriau
Yno'n rhes, dair llath ar wahân.


Codi o'r llanw, codi yn araf,
A'r tonnau yn taflu'n uwch o hyd,
A'r tywysogion i gyd yn disgwyl
Dedryd y nef ar helynt y byd.

Dyfod o'r llanw gan daflu cadair
Tywysog ar ôl tywysog i lawr;
Ond nofio o un ar frig y tonnau,
A Maelgwn yw Gwledig Cymru yn awr!



Nodiadau[golygu]