Cerddi Hanes/Yr Hen Ffermwr

Oddi ar Wicidestun
Ednyfed Fychan Cerddi Hanes

gan Thomas Gwynn Jones

Yr Hen Lafurwr

Cerddi Heddiw.

Yr Hen Ffermwr.

DAETH Dafydd Owen Gruffydd
I fyw i Dyn y Coed,
Lawer blwyddyn faith yn ôl
Yn bump ar hugain oed.

Yr oedd yn ŵr gosgeiddig,
Llawn dwylath oedd o hyd;
Cyhyrog oedd, ac ar ei gefn,
'Doedd unrhyw bwys ddim byd.

Yr oedd ei wallt yn loywddu
A llawn modrwyau mân,
A gwritgoch oedd ei ddwyrudd ef
A'i lygaid fel y tân.

Er nad oedd ganddo arian,
Er na roed iddo ddysg,
'Doedd gwmni na buasai ef
Yn frenin yn eu mysg.

Os celyd oedd ei ddwylo,
Os truan oedd ei ffawd,
'Roedd gwaed uchelwyr Cymru gynt
Yng ngwythi'r ffermwr tlawd.


Ni byddai neb a dynnai
Ar faes unionach cwys,
Nac yn y fedel undyn byw
Nas trechai wrth ei bwys.

Fe wyddai draddodiadau
A chwedlau fwy na mwy,
A llawer cerdd a chywydd pêr
Nad oes a'u hadfer hwy.

Gan hardded oedd ei olwg,
Fe swynodd lawer merch,
Ac ar y deca'i gwedd i gyd
Rhoes yntau'i fryd a'i serch.

Ni bu lawenach diwrnod
Ar ddeuddyn hoff erioed
Na'r dydd y dygwyd hi o'r Graig
Yn wraig i Dyn y Coed.

A gwelwyd tri o feibion
A thair o ferched glân
Cyn hir yn troi y lle yn llon
A'u mwynion gampau mân.

A chaled fu y llafur
I fagu'r teulu bach,
A'r byd yn ddu pan fyddent glaf
A gwyn pan fyddent iach.


Ar noswaith erwin iasoer
Yn nhrymder gaeaf du,
Daeth angau heibio'r teulu llon
A chreulon iawn a fu.

Fe wlychodd ei grafangau
Yng nghochwaed calon serch,
Gan adael yno ofid taer
Am annwyl chwaer a merch.

Ym mynwent fach ddiaddurn
Y capel llwm gerllaw,
Dan gysgod ywen werdd y mae
Y bedd y gwlych y glaw."

A gwelwyd wedi hynny
Ddifwyno gwedd y fam,
A britho gwallt y tad cyn hir,
A throi ei warr yn gam.

Yn nhreigliad y blynyddoedd
Bu llawer tro ar fyd,
A diffyg aur a phrinder bwyd
A gobaith lawer pryd.

Er garwed llawer tymor,
Ni phallwyd dwyn y rhent
Yn llawn i'r conach unoes oedd
Yn honni hen ystent.


Pan fyddai eisiau torri
Y ddadl erwina 'rioed,
Yr oedd uniondeb, pwyll a barn
I'w cael yn Nhyn y Coed.

Pan fyddai angen cyngor
Ar rai o bob rhyw oed,
Nid sicrach cyngor undyn byw
Na chyngor Tyn y Coed.

Nid ydoedd ef nac ynad
Na barnwr mawr ei glod,
Ac eto ni bu ynad gwell
Na barnwr mwy yn bod.

Ni feddai ef awdurdod
Un gyfraith dros ei farn,
Ond grym cydwybod onest glir
Gŵr cywir hyd y carn.

Yn wyneb profedigaeth,
Er gwaedu o'i galon ef,
Nid ildiai mwy na'r dderwen dan
Guriadau'r dymestl gref.

Yn wyneb angau'i hunan,
Er maint ei ddistaw loes,
Fyth nid anghofiai ddyled dyn
I'r byw, dan bob rhyw groes.


Fe welodd lawer lawer
O drocon chwerwon chwith,
Ond hwy na'r fellten lem a'r llif
Y cofia'r glaw a'r gwlith.

Dywedwch wrtho heddiw
Mai drwg sy'n llenwi'r byd,
A dyfyd yntau, ac fe'i gwyr,
Nad ydyw ddrwg i gyd.

Pa le mae'r teulu dedwydd
Fu'n Nhyn y Coed cyhyd?
Mae dau yn fud yng ngwaelod bedd,
A'r lleill ar led y byd.

Mor llawen oedd y dyddiau
Pan oedd y plant yn fân,
Yn chwarae hyd y meysydd draw
Neu'n eistedd wrth y tân!

Mor hyfryd fyddai ganddo
I'w ganlyn ef eu dwyn,
A dwedyd enwau blodau gwyllt
A llysiau coed a llwyn.

A dedwydd fyddai eistedd
Ar hirnos wrth y tân,
Gan adrodd chwedlau iddynt hwy
Neu ynteu ganu cân.


Ond buan darfu'r adeg,
Ac aeth y plant i gyd.
Ar led y byd i lawer lle
Ymhell o'r cartre clyd.

A bellach yn y fynwent
Mae'r fam a'r ferch ynghyd,
A'r tad ei hun yn Nhyn y Coed
Yn hen yn dwyn ei fyd.

Ni ŵyr y byd ei hanes,
Nid aeth ei glod ymhell,
Ond gŵyr a'i hedwyn ef na bu
I'w wlad erioed ei well.

Mae gwlad ein tadau'n newid
Yn llwyrach nag erioed,
Ond ni ddaw neb a fydd yn ail
I'r gŵr o Dyn y Coed.



Nodiadau[golygu]