Cerddi a Baledi/Aderyn

Oddi ar Wicidestun
Y Lamp Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Y Trysor

ADERYN

(A DDAETH UN DYDD YN FAWR EI FFWDAN DRWY'R
FFENESTR I SWYDDFA'R BARDD)

PAHAM, paham, aderyn hardd,
Y daethost ti i swyddfa'r bardd—
I le mor llwm, mor groes i'th reddf,
O'r llwyni ir ac lynu ddeddf;
O'r awyr rydd i gyfyng rwyd
Ystafell Fwll cyfreithiwr lwyd
Ond un sy'n caru, fel tydi,
Gytgan y dail a murmur lli,
A phob rhyw liw a llawen gerdd
A geir mewn maes a choedlan werdd?

Ai'r hebog cas, aderyn ffol
A fu yn ymlid ar dy ôl?
Ai dianc wnaethost rhag y saeth
Neu ddychryniadau a fo gwaeth—
Rhyw gudd adarwr brwnt ei lun
A ofni'n fwy na'r gelyn ddyn?

O, paid â gwylltio, 'r bychan ffôl,
Gan hedeg, hdeg 'mlaen ac ôl,
Yn lleddf dy gri gan ddeffro'r llwch
Sy'n gorwedd ar fy llyfrau'n drwch;
Pam garwhei dy liwiog blu?
'D oes yma neb ond cyfaill cu;
Ond gwn mai anodd yw i un
A glywodd am greulonder dyn
At deulu'r maes a'r coed a'r lli,
Ddisgwyl tynerwch gennyf i,


Paid, paid â chrynu yn fy llaw,
Cei fynd yn ôl drwy'r gwynt a'r glaw,
I'r meysydd glas a'r goedlan werdd,
Ac yno eto byncio cerdd;
Dan hugan wen y ddraenen ddu
Cei wrando cân dy gymar cu,
A llechu'n dawel; ac fe chwyth
Awelon hwyrddydd dros dy nyth;
Cei deimlo'r plisgyn gwan yn rhoi
Odanat—tithau'n ymgyffrôi
Mewn melys ffwdan am fod un
Newyddanedig gwael ei lun
Yn mynnu, mynnu gwthio'i ben
Dan esmwyth blu dy fynwes wen;
A'th gymar balch â'i felyn big
Yn torri'r newydd drwy y wig.

Pob rhyw hyfrydwch a fedd llwyn
A fo dy ran, aderyn mwyn;
A chysgod yr adarwr hy
 gadwo 'mhell o'th ddeilog dŷ.

Paid, paid â chrynu yn fy llaw,
Cei fynd yn ôl drwy'r gwynt a'r glaw,
Gwêl—mi agoraf lydan ddrws,
Dos dithau, dos, y bychan tlws.