Cerddi a Baledi/Y Lamp
Gwedd
← Y Rhwyd | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Aderyn → |
Y LAMP
(WEDI TANCHWA GRESFORD:, MEDI, 1934)
FE ddeil y lamp ynghyn
Ar fwrdd y gegin lom,
A fflam fel gobaith gwyn
Drwy oriau'r hirnos drom.
Mae'r drws o led y pen,
Er oered gwynt y nos;
Pwy ŵyr na ddaw y llanc
Yn ôl cyn hir i'r Rhos?
"Mae'n gorwedd," meddai rhai,
"O dan y talcen glo
A'r fflam yn fur o dân
O gylch ei wely ô."
Ond, yn y bwthyn llwyd
Mae un o hyd a fynn
Ddisgwyl ar drothwy'r drws,
A chadw'r lamp ynghyn.