Cerddi a Baledi/Y Rhwyd

Oddi ar Wicidestun
Y Fflam Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Y Lamp

Y RHWYD

SYLLAIS ar wead cywrain
Ei rwydwaith arian cain
Ar frigau'r perthi gwyrddion,
A gwynion flodau'r drain.

"Celfydd yw'r llaw a'i nyddodd,
Hawddgar a theg yw'r un,"
Meddwn, "a weithiodd allan
Gampwaith mor hardd ei lun."

Gwyliais—ac wele'r gweithiwr
Yn brysur wrth ei waith,
Ond nid oedd tegwch iddo
Na dim hyfrydwch, chwaith.

Ac yn y rhwydwaith arian
Ymwingai dryslyd ddau—
Prydydd a'i awen ysig,
Pryfyn a'i adain frau.