Cerddi a Baledi/Y Fflam
Gwedd
← Cynnwys | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Y Rhwyd → |
Y FFLAM
CARAFAN coch a milgi brych
A chaseg gloff yng nghysgod gwrych;
A merch yn dawnsio i ysgafn gân
A chrwth ei chariad yng ngolau'r tân.
Cyfyd y tân ei wenfflam fry
Fel braich am wddf y crochan du;
A'r Sipsi tal a rydd dan sêl
Ei lw o serch ar fin o fêl.
Dros ac y bryn y dring y lloer,
Mae'r tân yn awr fel hithau'n oer;
Angerdd pob fflam, a thân pob nwyd,
A dry'n ei dro yn lludw llwyd.