Cerddi a Baledi/Cwningod
Gwedd
← Y Rhyfelwyr | Cerddi a Baledi I'r Plant gan I. D. Hooson I'r Plant |
Y Gath Ddu → |
CWNINGOD
DWY gwningen fechan
Yn eistedd ger y llwyn—
Un yn gwrando'n hapus
Ar gân yr adar mwyn,
A'r llall a'i phawen felfed
Yn rhwbio blaen ei thrwyn.
Dwy gwningen fechan
Yn ffoi drwy'r borfa las,
Eu calon yn eu gyddfau,
A Mic, y milgi cas,
Yn rhedeg ar eu holau
Ar chwiban Deio'r gwas.
Un gwningen fechan
Dan goeden yn y llwyn,
Yn crio am ei chyfaill
Yng ngolau'r lleuad fwyn,
Gan godi'i phawen felfed
A rhwbio blaen ei thrwyn.