Cerddi a Baledi/Y Rhyfelwyr

Oddi ar Wicidestun
Y Gwylliaid Cochion Cerddi a Baledi
Baledi
gan I. D. Hooson

Baledi
Cwningod

RHYFELWYR

"BLE'R wyt ti'n mynd, y bachgen dewr,
I ble'r wyt ti'n mynd mor llon,
Ar dy winau farch,
Gyda'th darian gref,
A'th loyw waywffon?"

"Mi welais gynnau y bannau'n goch,
Gan fflamau'r goelcerth fawr,
'Rwyf innau'n mynd,
Ar fy ngwinau farch,
I Gatraeth gyda'r wawr."

"Mae'r praidd heb fugail y bachgen ffôl,
Yn crwydro'r mynydd mawr
"Ni'm dawr am y praidd,
Mae'n rhaid i mi fynd,
I Gatraeth gyda'r wawr."

II

"I ble'r wyt ti'n mynd, y bachgen hoff,
Mor heini dy gam drwy'r dref;
Gyda'r seindorf bres,
Yn dy newydd wisg,
A'th wn ar dy ysgwydd gref?"


"Mi glywais sôn am rhyw frwydro mawr,
Yn Fflandrys tu hwnt i'r don;
'Rwyf innau'n mynd
Gyda'r bechgyn dewr,
I ganol y frwydr hon."

Mae'r arad' draw ar y dalar werdd
Yn dy aros, y bachgen hoff";
"Na'r—fidog i mi,"
Meddai'r talgryf lanc,
"A'r arad' i'r hen a'r cloff."

III

Hir, hir, yw'r gri o Gatraeth bell
I Fflandrys tu hwnt i'r don,
Ond mae'r utgorn clir,
Drwy yr oesoedd hir,
Yn galw'r bechgyn llon.

Tra bo gwaed yn goch, a'i lif yn chwyrn—
Yn chwyrn drwy y gwythi poeth—
Ofer yn wir,
Drwy yr oesoedd hir,
Yw cyngor yr hen a'r doeth.


A chlywir o hyd eu hymdaith hwy,
A'u sang ar y palmant oer,
Eu canu per,
Dan y distaw sêr,
A'u llwon o dan y lloer.

Ar eu holaf hynt ar eu gwinau feirch,
Gyda'r waywffon a'r cledd;
Drwy y dur a'r tân,
A'u rhegfeydd a'u cân,
Ar eu hynt yn llym eu gwedd;
Gyda'r gynnau croch
Dros y meysydd coch,
I fri neu i gynnar fedd.

Y gwynt a chwyth dros eu beddau hwy,
A'r gwlith a'r glaw a'u gwlych;
A'u hun fydd hir
Dan y glaswellt ir
Lle pawr y march a'r ych;
Y gwŷr a aeth-gyda'r cledd a'r saeth
I Gatraeth gyda'r wawr,
Yn rhengoedd hir drwy Fflandrys dir
A chur y Rhyfel Mawr.