Cerddi a Baledi/Y Gwylliaid Cochion

Oddi ar Wicidestun
Guto Nyth Brân Cerddi a Baledi
Baledi
gan I. D. Hooson

Baledi
Y Rhyfelwyr

Y GWYLLIAID COCHION

JOHN Wyn ap Meredydd o Wydir
Gychwynodd yn fore o'i lys
John Wyn ap Meredydd a'i filwyr
Farchogodd i Fawddwy ar frys;
Dros drumau yr Oerddrws, a'r gaeaf
Yn chwythu ei utgyrn yn groch,
A'r eira yn cuddio y creigiau
Lle llechai y Gwylliaid Coch.

John Wyn ap Meredydd o Wydir,
Ac Owain y Barwn a'i lu,
A Siryf Trefaldwyn yn marchog
Ei geffyl porthiannus a du;
Eu dynion i gyd dan eu harfau
Fel byddin yn barod i'r gad,
Yn dyfod drwy'r Oerddrws i Fawddwy
I ymlid y Gwylliaid o'r wlad.

O drothwy i fwthyn caregog
Ap Siencyn edrychai yn syn
Wrth weled y Barwn a'r Siryf
Yn ymdaith a gosgordd fel hyn;
Ap Siencyn—ysbïwr y Gwylliaid—
A ofnodd, a gwelwodd ei foch,
A rhedeg a wnaeth yn ei ddychryn
I wersyll y Gwylliaid Coch.


Disgynnai yr eira'n gawodydd
Ar filwyr Syr John yn y glyn,
Pob milwr fel petai'n felinydd,
Ei arfwisg yn ddisglair a gwyn;
Ond toc o gilfachau y mynydd
Rhyw arall gawodydd a ddaeth,
A gwelwyd rhosynnau yn gwrido
Ar fronnau a wanwyd a'r saeth.

John Wyn ap Meredydd o Wydir
A gododd ei gleddyf uwchben,
A'u wyr ar ei archiad a yrrodd
Eu saethau i fyny i'r nen;
Ac yna y dringo dros greigiau
A bwyeill, cleddyfau, a ffyn,
Yr ymlid drwy ddrysni y Dugoed,
A'r hela dros ddyffryn a bryn.

Y Gwylliaid a chwalwyd mewn dychryn,
Fel truain lwynogod ar ffo,
Heb iddynt ymgeledd yn unman,
Na llety na ffrind drwy y fro,
(Y dynion yn lladd ac yn erlid,
Y gwragedd yn wylo yn drist,
A dydd y Nadolig yn nesu,
Dydd Geni y Baban, y Crist).


Gwae! Gwae! i Wylliaid y Mawddwy,
Fe'u daliwyd, fe'u rhwymywd yn dynn—
A chrogwyd ugeinau ohonynt
Ar gangau y deri a'r ynn;
Mor ofer y gri am drugaredd,
'R ôl ymlid mor galed a phoeth,
Mor ofer wylofain y mamau,
Ac ymbil eu bronnau noeth.

"Arbedwch, arbedwch fy meibion,"
Dolefai y fam yn ei gwae;
Y Barwn a droes ar ei sawdl,
A'i filwyr a grogodd y ddau.
Y fam a ddyrchafodd ei llygaid
A'i breichiau melynddu i'r nef,
Gan dyngu i'r duwiau y mynnai
Gael dial eu gwaed arno ef.

Y gaeaf a guddiai a'i wenwisg,
Y creigiau didostur a du,
Ond nid mwy didostur y creigiau,
Na chalon y Barwn a'i lu;
Y gigfran a gafodd ei gwala,
A swrth oedd yr eryr a'i gyw
O fwyta o ffrwyth y crocbrennau
A safai yng nghysgod y rhiw.


John Wyn ap Meredydd o Wydir
Ddychwelodd yn llawen i'w blas,
John Wyn ap Meredydd a'i filwyr,
O hela y Gwylliaid cas,
A'r Barwn a Siryf Trefaldwyn,
Yn chwerthin yn uchel a hir,
Wrth deithio yn ôl drwy yr Oerddrws,
'R ôl ymlid y Gwylliaid o'r tir.

Cyn hir yr oedd Brawdlys ym Maldwyn,
A'r Barwn ddychwelai o'r llys,
I'w hafod ger hen dref Dolgellau,
Drwy ddrysni y Dugoed ar frys;
A'r Gwylliaid a wybu ei ddyfod,
A chofiwyd diofryd y fam,
A chlywyd y meirw yn galw
O'u beddau am ddial y cam.

Yng nghanol y perthi y safent,
Bob un gyda'i fwa yn dynn,
Ac Owain, y Barwn, yn nesu,
Mor falch ar ei geffyl gwyn;
Ac yna yn sydyn daeth cawod
O saethau-ni wyddid o b'le-
Ac Owain, y Barwn, a drawyd
Ar afal ei lygad de.


Y Barwn clwyfedig orweddai
Wrth ochr ei farch ar y llawr,
Y Barwn clwyfodig riddfannai,
A phoenau ei enaid oedd fawr;
A brodyr y ddeuddyn a grogwyd
Wrth reffyn ar dderi'r rhiw,
A olchodd eu dwylo yng ngwaedlif
Y Barwn—ac yntau yn fyw.

Diofryd y fam a gyflawnwyd,
A hithau a giliodd i'w bedd;
Mae'r meirw ym Mynwent y Gwylliaid
Yn gorwedd ers talwm mewn hedd;
Bro Mawddwy a gafodd ymwared,
A'r gaeaf a scinia yn groch
Ei utgyrn dros drumau yr Oerddrws
A beddau y Gwylliaid Coch.