Cerddi a Baledi/Guto Nyth Brân

Oddi ar Wicidestun
Owain Lawgoch Cerddi a Baledi
Baledi
gan I. D. Hooson

Baledi
Y Gwylliaid Cochion

GUTO NYTH BRAN

(RHEDEGWR ENWOG YN EI DDYDD; AR EI FEDDFAEN Y
MAE'N YSGRIFENEDIG HANES RHAI O'I GAMPAU, A'R UN
A GANLYN YN EU MYSG)

MAE mynwent yn Llanwynno
(Ni wa a fuost yno)
Lle rhoddwyd Guto o Nyth Brån
Dan raean mân i huno.

Ysgafndroed fel 'sgyfarnog
A chwim oedd Guto enwog
Yn wir, dywedir bod ei hynt
Yn gynt na'r gwynt na'r hebog.

Enillodd dlysau lawer;
Ond hyn sy'n drist, gwrandawer—
Fe aeth i'w fedd, cyflymed oedd,
Flynyddoedd cyn ei amser.

Ymryson wnaeth yn ffolog,
Gan herio march a'i farchog
I'w guro ef ar gyflym daith
Dros hirfaith gwrs blinderog.


Daeth tyrfa fawr i ddilyn
Yr ornest awr y cychwyn—
A gwylio'r ddau a redai ras
o ddolydd glas y dyffryn.

Dros briffyrdd sych cargº
Dros gulffyrdd gwlyb a lleidiog,
Drwy'r llwch a'r dwr, y rhed y gŵr
A'r march fel dau adeiniog,

Drwy lawer pentref llonydd,
Lle saif yn yr heolydd,
Ar bwys eu ffyn, yr hen wŷr syn
A'u barfau gwyn aflonydd.

Dros lawer cors a mawnog
Y dwg y march ei farchog—
A Guto ar ei warthaf rydd
Ryw lam fel hydd hedegog

A'r dyrfa yn goriain,
A chŵn y fro yn ubain;
Mae'r bloeddio gwyllt fel terfysg cad
Trwy'r wlad yn diaspedain.


Fel milgwn ar y trywydd
Y dringant ochrau'r mynydd;
Dros fryn a phant, dros ffos a nant,
Cydredant gyda'i gilydd.

Dros briffyrdd sych, caregog,
Dros gulffyrdd gwlyb a lleidiog,
Drwy'r llwch a'r dŵr, y rhed y gŵr
A'r march fel dau adeiniog.

Ac wele, dacw'r gyrchfan
O faen y rhedwyr buan;
Mae Guto ar y blaen yn awr,
A'r dyrfa fawr yn syfrdan.

Nid oes ond canllath eto ..
Ond ugain . . decllath eto
A dacw'r march yn fawr ei dwrf
Bron wddf am wddf â Guto.

Ysbardun llym a fflangell
Sy'n brathu'r march fel picell—
Ni thycia ddim; mae Guto chwim
O'i flaen ar draws y llinell.


A hirfloedd a dyr allan,
Gan lenwi'r dyffryn llydan—
Rhyw nerthol gawr, fel taran fawr,
A nef a llawr sy'n gwegian.

"Hwrê, Hwrê i Guto,
Nyth Brân a orfu eto":
Daw'r fanllef lon yn don ar don,
A'r gŵr bron â llesmeirio.

Ei riain a'i cofleidia,
Gan guro'i gefn—ond gwelwa
Y llanc ar fron ei eneth lan,
Ac yna'n druan trenga.

Cei ddarllen ar y beddfaen
Sydd uwch ei wely graean
Yr hanes trist, ac fel y'i caed
Yn gorff wrth draed ei riain.

Ac am ei roi i huno
Ym mynwent wen Llanwynno,
'R ôl curo'r march, yn fawr ei barch
Mewn derw arch ac amdo.


Ac yno yn Llanwynno
Yr huna Guto eto;
Cyflymed oedd—ni all y llanc
Byth ddianc oddi yno.